Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch yn ddidwyll i bawb a fu'n rhan o'r ymateb i'r tân yn nhwnnel Conwy ddoe. Mae hynny'n cynnwys ein gwasanaethau brys, partneriaid allweddol, a'n hasiant—Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA). Mae eu hymateb cyflym a threfnus yn dyst i gryfder y trefniadau cynllunio, cyd-ymarfer a gweithredu yr ydym wedi'u datblygu gyda'n gilydd ar gyfer yr A55 a'n holl dwneli.

Cynhaliwyd ymarfer ychydig fisoedd yn ôl i edrych ar wytnwch cynlluniau Llywodraeth Cymru, NMWTRA, gwasanaeth tân ac achub Gogledd Orllewin Cymru a gwasanaethau brys eraill i ddelio â'r senario hwn ar yr A55 yn Nhwnnel Conwy. Mae hynny mae'n amlwg wedi talu ar ei ganfed gan i'r ymarfer gael ei roi ar waith ddoe i helpu i leihau difrod.  Mae'r cydweithio hwn gyda'n partneriaid yn parhau, gyda chyfarfodydd aml-asiantaeth yn cael eu cynnal wrth i ni ddelio â chanlyniadau'r digwyddiad.

Hoffwn fynegi fy niolch hefyd i aelodau'r cyhoedd a defnyddwyr yr A55 am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod yr aflonyddwch. Rydym yn llwyr gydnabod yr effaith sylweddol y gall digwyddiadau fel hyn ei chael ar gymunedau, busnesau ac unigolion ledled Cymru.  Roedd hon yn sefyllfa argyfwng ac roedd yn rhaid cau'r twnnel er diogelwch pawb, ac er bod dargyfeiriad yn ei le rwy'n gwybod y byddai hyn wedi ychwanegu at amser teithio gan amharu ar fywydau pobl. 

Roedd yn dda gweld, diolch i ymdrechion diflino pawb fu ynghlwm â'r gwaith, i'r twnnel ailagor yn rhannol y bore yma. Mae traffig bellach yn llifo trwy'r rhan na wnaeth y tân effeithio arni o dan drefniadau gwrthlif.

Er bod hyn yn welliant mawr yn y 24 awr ddiwethaf, mae oedi yn dal i fod yn debygol wrth i ni barhau â'r gwaith hanfodol o arolygu a phrofi'r rhan o'r twnnel yr effeithiwyd arni. Rwy'n annog holl ddefnyddwyr y ffordd i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau ac i baratoi'n briodol—yn enwedig yn y tywydd cynnes hwn—trwy gario dŵr a bwyd ychwanegol.

Mae gwaith trwsio eisoes yn cael ei drefnu, ac mae ein timau'n gweithio'n ddi-baid i asesu'r difrod ac adfer y twnnel er mwyn iddo ailagor yn ddiogel cyn gynted ag y bo modd gwneud hynny. Byddaf yn ymweld a’r twneli y penwythnos yma ond rwyf am fod yn glir, bydd y cam hwn yn cymryd amser. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i'r asesiadau fynd yn eu blaen. Efallai y bydd angen cau'r twnnel eto neu gynnal mesurau rheoli traffig yn yr wythnosau nesaf ar gyfer y cam adfer ac er mwyn i ni allu trwsio'r difrod. 

Byddwn yn parhau i gyhoeddi diweddariadau rheolaidd drwy ein datganiadau cyfathrebu, drwy Traffig Cymru, i roi gwybod i bawb.

Hoffwn ddiolch i bawb unwaith eto am eu cydweithrediad a'u hamynedd.