Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr achosion diweddar o danau glaswellt yng Nghymru.

Mae cyfnodau estynedig o dywydd poeth a sych wastad yn cynyddu’r perygl o danau, yn enwedig mewn ardaloedd o laswelltir heb ei drin, gweundiroedd a choedwigoedd. Cafwyd cyfnod o’r fath yn ystod y dyddiau diweddar, gyda thanau difrifol mewn mannau gan gynnwys Ynys Môn a’r Rhondda, a bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân dreulio amser maith yn ymateb iddynt. Bu nifer o danau llai o faint hefyd a ddiffoddwyd yn gyflym ac yn rhwydd.

Ymddengys fod y rhan fwyaf o’r tanau hyn wedi eu cynnau yn fwriadol. Rwy’n siŵr y bydd Aelodau yn ymuno â mi wrth gondemnio’r ymddygiad hwn yn llwyr. Mae tanau glaswellt yn diffeithio’r amgylchedd, yn lladd bywyd gwyllt a da byw, yn peryglu cartrefi a busnesau ac yn peryglu bywydau diffoddwyr tân a phobl eraill. Nid yw cynnau tanau yn fwriadol yn rhywbeth doniol neu glyfar – mae’n beryglus ac yn dwp. Bydd pobl a gaiff eu dal yn gwneud hynny yn cael eu herlyn am y drosedd ddifrifol iawn o gynnau tanau bwriadol. Gallant ddisgwyl dirwy drom neu gyfnod o garchar, a chofnod troseddol am weddill eu hoes.

Yn amlwg, mae’n well o lawer atal tanau o’r fath yn hytrach na gorfod eu diffodd. Rydym wedi canolbwyntio ar atal tanau ers cyfnod y Pasg 2015, pan welwyd bron 1,500 o danau glaswellt mewn mis. Bu’r Gwasanaeth Tân yn cydweithio’n ddyfal â’r heddlu, awdurdodau lleol, ysgolion, ffermwyr ac eraill i annog pobl i beidio â chynnau tanau, a datblygu dulliau eraill o leihau risgiau megis gwella trefniadau rheoli tir. Yn ddiamau, mae’r dull gweithredu hwn wedi gweithio. Roedd nifer y tanau glaswellt bron wedi ei haneru ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen hon – ac, er gwaethaf yr achosion diweddar, mae’n bosibl o hyd y bydd nifer y tanau a gofnodir eleni yn is nag erioed o’r blaen.

Er hynny, ni ellir cael gwared â’r broblem yn llwyr. Mae tanau glaswellt yn rhy hawdd i’w cynnau, yn enwedig mewn tywydd fel hyn. Gan hynny, rydym hefyd wedi cynorthwyo’r Gwasanaeth Tân i fuddsoddi yn y cyfarpar arbenigol a’r hyfforddiant arbenigol sydd eu hangen ar ddiffoddwyr tân i ddiffodd tanau glaswellt yn gyflym ac yn effeithiol. Yn enwedig, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru - sy’n wynebu’r perygl mwyaf o lawer – yw un o’r gwasanaethau tân sydd â’r offer a’r cyfarpar gorau yn y DU, ac mae’r gwasanaeth hwnnw yn meddu ar arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Roedd criwiau’r gwasanaeth hwnnw ymhlith y cyntaf i gael eu hanfon i helpu Gwasanaeth Tân ac Achub Manceinion Fwyaf i ddiffodd tân Gweundir Saddleworth, heb beryglu gallu’r Gwasanaeth i ymateb i ddigwyddiadau yn ei ardal leol hefyd.

Er gwaethaf hynny oll, mae diffodd tanau glaswellt yn dal i fod yn waith heriol a pheryglus. Weithiau, y ffordd fwyaf diogel ac effeithiol o ddiffodd tân o’r fath yw ei gyfyngu a gadael iddo losgi hyd at ddiffodd. Efallai y bydd hynny’n ymddangos i’r rheini yn y cyffiniau agos fel dull braidd yn araf o ddiffodd y tân. Gallwn eu sicrhau y diffoddir unrhyw dân sy’n peryglu bywydau neu eiddo mewn ffordd fwy gweithredol o lawer, ac mai gwarchod diogelwch y cyhoedd yw prif flaenoriaeth y Gwasanaeth Tân ar bob adeg.

Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw’r rhan fwyaf o’n diffoddwyr tân yn ddiffoddwyr tân llawn amser, ac nid oes yr un ohonynt yn ddiffoddwyr tân llawn amser mewn ardaloedd gwledig. Caiff y diffoddwyr eu galw i mewn o’u cartrefi neu eu gweithleoedd fel y bo’u hangen, ac ar adegau fel hyn gall y galwadau arnynt fod yn drwm iawn. Gall y galwadau fod yn drwm iawn ar eu cyflogwyr hefyd, gan fod galw diffoddwyr tân o blith eu staff yn gallu amharu’n ddifrifol ar eu busnesau. Hoffwn ddiolch i’r cyflogwyr hynny am eu cymorth o ran cadw ein cymunedau yn ddiogel.

Nid oes unrhyw olwg o newid yn rhagolygon y tywydd dros y saith i ddeng niwrnod nesaf, sy’n golygu bod perygl uchel o danau glaswellt o hyd. Rydym yn monitro’r sefyllfa yn barhaus, ond rwyf yn hyderus bod gan ein gwasanaethau tân bopeth sydd eu hangen arnynt i reoli’r perygl hwn yn effeithiol.