Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, pan fydd cyfnod o dywydd cynnes a sych yn cyd-ddigwydd â gwyliau ysgol y Pasg, bydd Cymru a rhannau eraill o’r DU yn gweld llawer o danau glaswellt sydd wedi’u cynnau’n fwriadol. Er na fu eleni'n eithriad, bu gostyngiad yn nifer y tanau glaswellt yng Nghymru yn ystod mis Ebrill 2019, o'i gymharu â'r achosion niferus a difrifol a ddigwyddodd ym mis Ebrill 2015, sef y tro diwethaf inni gael cyfnod o dywydd braf yn cyd-ddigwydd â gwyliau'r Pasg.   

O ganlyniad i'r tanau yn 2015, cynhaliodd y Prif Weinidog ar y pryd uwchgynhadledd i drafod tanau glaswellt, a bu'r uwchgynhadledd honno'n drobwynt a welodd sefydlu ffyrdd o gydweithio rhwng partneriaid er mwyn mynd i'r afael â'r broblem. Tynnwyd sefydliadau allweddol ynghyd i lunio rhaglen gydweithredol ar gyfer ymateb yn y tymor byr, y tymor canolig, a'r tymor hir, yn seiliedig ar addysg, rheoli tir, ac atal pobl rhag troseddu. Hefyd, aethpwyd ati i greu ‘Dawns Glaw’ sef tasglu amlasiantaeth a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr allweddol o'r Heddlu, yr Awdurdodau  Tân ac Achub, Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Lleol, a Llywodraeth Cymru. Nid oes amheuaeth nad yw ‘Dawns Glaw’ a rhaglenni eraill wedi helpu i leihau nifer y tanau glaswellt ledled Cymru, yn ogystal â’u difrifoldeb, yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Mae ffigurau cychwynnol yr Awdurdodau Tân ac Achub ar gyfer 2019 yn dangos y bu 566 o danau glaswellt bwriadol ym mis Ebrill eleni o'i gymharu â 1,292 ym mis Ebrill 2015, sef gostyngiad o 56%. Mae nifer y prif danau glaswellt  – sef y rheini y mae gofyn i 5 neu fwy o beiriannau tân ymateb iddynt, hefyd wedi mwy na haneru, o 50 i 24.   

Fodd bynnag, mae unrhyw danau glaswellt bwriadol yn gwbl annerbyniol. Maent yn anghyfrifol, yn beryglus ac yn erbyn y gyfraith, gan eu bod yn dinistrio ein tiroedd gwledig prydferth, yn lladd bywyd gwyllt, ac yn peryglu bywydau mewn cymunedau a bywydau’r diffoddwyr tân sy'n ymateb iddynt. Nid yw’n bosibl rhagweld sut y bydd tanau o'r fath yn datblygu, a gallant dyfu y tu hwnt i reolaeth yn gyflym iawn. Yn aml, bydd y diffoddwyr tân yn brwydro i'w diffodd o dan amodau peryglus a heriol. Hoffwn dalu teyrnged felly i'n diffoddwyr tân sy'n gweithio'n ddiflino i atal tanau glaswellt bwriadol rhag digwydd, ac i'w diffodd pan fyddant yn cael eu cynnau.

Mae adnoddau gwerthfawr yn cael eu neilltuo ar gyfer ymladd tanau glaswellt, sy'n golygu y gallai'r gwasanaethau tân gymryd yn hirach i ymateb i argyfwng megis tân mewn tŷ neu ddamwain ffordd gan eu bod yn brysur eisoes. Dyma un o brif negeseuon y gwasanaethau tân.

Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn cydweithio'n agos â Heddlu'r De i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ddifrifoldeb cynnau tân yn fwriadol, ac o'r ffaith y bydd y rheini sy'n cael eu dal yn cael eu cosbi yn y modd priodol. Mae cynnau tân yn fwriadol yn drosedd ddifrifol sy'n gallu arwain at garchariad, ac a fydd yn golygu y bydd gan y troseddwr gofnod troseddol yn ei erbyn yn ddi-ffael. Hoffwn ganmol gwaith y diffoddwyr tân a'r heddlu ar y camau y maent wedi eu cymryd i ddod â throseddwyr gerbron y llys. Cafodd dau unigolyn eu harestio yn y Gogledd mewn cysylltiad â thân glaswellt mawr ger Blaenau Ffestiniog ar ddydd Llun y Pasg. 

Fodd bynnag, mae'n anodd iawn dal y rheini sy'n gyfrifol am gynnau'r tanau hyn tra y byddant wrthi'n troseddu. Os yw pobl yn teimlo'r awydd i gynnau tân o'r fath, mae'r cyfle ar gael iddynt drwy fod cynifer o drefi yng Nghymru yn agos i laswelltir sydd heb ei drin a fforestydd. Felly, mae'n hanfodol ceisio cael gwared ar yr awydd i gynnau'r tanau hyn yn y lle cyntaf; a dyma'n union beth yr ydym ni a'n partneriaid wedi bod yn ei wneud.

Mae'r Awdurdodau Tân ac Achub yn rhedeg nifer o raglenni drwy gydol y flwyddyn i droi plant a phobl ifanc i ffwrdd oddi wrth yr awydd i gynnau tân yn fwriadol. Mae eu gwaith yn y maes hwn yn cynnwys ymgyrchoedd addysgol cryf eu neges, yn ogystal ag ymyriadau dwys ar gyfer troseddwyr tebygol neu droseddwyr sy'n hysbys i’r awdurdodau. Darperir y rhaglenni gyda chydweithrediad llawn ysgolion, yr heddlu ac asiantaethau eraill, ac fe’u gwelwyd yn llwyddo. Mae rhai o'r rhaglenni mwy dwys, megis ‘Troseddau a Chanlyniadau’ a 'Ffenics', yn gweithio gyda grwpiau bach sydd mewn perygl o droseddu. Bron yn ddieithriad, byddant yn darbwyllo'r bobl ifanc hyn i ymddwyn mewn modd mwy cadarnhaol a chymdeithasol gyfrifol. Dim ond nifer bach sy'n aildroseddu, ac mae llawer yn mynd ymlaen i gael swyddi, rhai yn y gwasanaeth tân ei hunan, neu ymlaen i addysg bellach, rhywbeth na fyddent fel arall wedi meddwl ei wneud. Mae'r rhaglenni hyn yn cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n falch o fod wedi gallu rhoi cymorth iddynt unwaith eto, sef bron i £400,000, yn y flwyddyn ariannol hon.

Fodd bynnag, ni ddylem wneud y camgymeriad o feddwl mai dim ond plant a phobl ifanc sydd ar fai am y broblem hon. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod rhai tanau mawr yn cael eu cychwyn gan berchnogion tir sy'n awyddus i glirio tir y tu allan i'r tymor llosgi pan ganiateir iddynt wneud hynny. Mae'r tymor hwnnw'n dod i ben ar yr ucheldiroedd ar 31 Mawrth. Mae eu hymddygiad hwythau yr un mor anghyfrifol ac anghyfreithlon ag ymddygiad y person ifanc sy'n cynnau tân oherwydd synnwyr cyfeiliornus o hwyl a sbri neu antur. Gall tanau o'r math hwn ymledu'n rhy hawdd, gan fynd allan o reolaeth, a gwneud darnau helaeth o dir yn amhosibl eu defnyddio at ddibenion amaethyddol. Gall perchnogion tir hefyd gyfrannu'n gadarnhaol at ein gwaith drwy reoli eu tir mewn modd sy'n ei gwneud yn anoddach i eraill gynnau tân arno, ac rydym ni a'n partneriaid wedi bod yn ymgysylltu â'r gymuned ffermio i ledaenu'r negeseuon hyn.

Mae'r ffigurau'n dangos yn glir bod yr holl fentrau hyn yn gweithio; ond serch hynny, ni fyddwn byth yn gallu cael gwared ar danau glaswellt yn gyfan gwbl. Felly rydym hefyd wedi sicrhau y gall ein gwasanaethau tân ac achub ymateb i'r tanau hyn yn gyflym ac yn effeithiol.  Rydym wedi ariannu cerbydau arbenigol ar gyfer mynd oddi ar y ffordd, a chyfarpar diogelu ar gyfer ymladd tanau glaswellt, yn ogystal â dronau sy'n darparu gwybodaeth hanfodol ynghylch sut mae tân yn ymledu. Mae gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn enwedig enw da'n rhyngwladol am ei arbenigedd yn y maes hwn, ac mae ei griwiau wedi cael eu hyfforddi mewn gwledydd megis Sbaen a De Affrica, lle mae perygl a maint eu tanau gwyllt gymaint yn fwy na'n tanau ni. Rwy'n awyddus i weld y peryglon blynyddol hyn yn mynd yn llai ac yn llai - ond rwyf hefyd am sicrhau pobl Cymru bod ein gwasanaethau brys yn fwy na galluog o ran mynd i'r afael â nhw.