Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwnaeth cyhoeddi asesiadau cyflwr Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar 25 Mehefin gadarnhau bod llygredd maethynnau yn cyfrannu at gyflwr gwael nodweddion safleoedd mewn sawl Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) forol. 

Mae angen camau gweithredu i fynd i'r afael â hyn ac mae ganddo oblygiadau sylweddol posibl i benderfyniadau Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl), lle gall datblygu gyfrannu at lwythi maethynnau, ac effeithiau canlyniadol ar ddatblygu a'i ddiwydiannau cysylltiedig. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur Cymru ac mae'r Rheoliadau Cynefinoedd yn darparu'r modd i ddiogelu ein safleoedd mwyaf arwyddocaol ar gyfer bioamrywiaeth ac ystyried yr effeithiau arnynt. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddarparu'r cartrefi a'r seilwaith sydd eu hangen ar ein gwlad. 

Er mwyn sicrhau bod gwaith datblygu yn ailddechrau cyn gynted â phosibl, mewn modd cynaliadwy, mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu Tasglu. Mae'r grŵp hwn yn dwyn ynghyd uwch-swyddogion o Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Mae'n gweithio ar fyrder i nodi ac archwilio'r holl opsiynau rhesymol, gan ganolbwyntio ar nodi atebion tymor byr y gellir eu gweithredu'n gyflym ac a fydd yn cyfrannu at atebion mwy cynaliadwy yn y tymor canolig a'r hirdymor. Mae'r Tasglu yn adrodd yn rheolaidd ar gynnydd i Weinidogion ac arweinwyr Awdurdodau Lleol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cymorth ariannol ychwanegol i'r ardaloedd yr effeithir arnynt i'w galluogi i roi'r mesurau sydd eu hangen ar waith yn gyflym er mwyn i ddatblygiadau fynd rhagddynt. Mae hyn yn cynnwys dros £500,000 i Fwrdd Rheoli Maethynnau Gorllewin Cymru a chyllid o hyd at £1.5miliwn dros dair blynedd i gefnogi Awdurdodau Lleol i weithredu mesurau niwtraliaeth maethynnau.