Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais y byddai Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De yn cael ei sefydlu, ac mae’r Datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am aelodau'r tasglu.

Dyma aelodau'r tasglu:

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes , Alun Davies AC (Cadeirydd)
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates AC
Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James AC
Ann Beynon, Cadeirydd Bwrdd Dinas-Ranbarth Caerdydd
Andrew Diplock, Cyfarwyddwr Strategaeth a Llywodraethu, Inprova Energy
Judith Evans, Pennaeth, Coleg y Cymoedd
Dr Chris Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol, Ochr yr Undebau Llafur
Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd y Cyngor, Rhondda Cynon Taf
Yr Athro Brian Morgan, Prifysgol Caerdydd

Bydd y Tasglu Gweinidogol yn cyfarfod am y tro cyntaf ar 22 Medi i drafod ei flaen raglen waith ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yn dilyn hynny, bydd yn cyfarfod bob chwarter, er y gallai'r cyfarfodydd gael eu cynnal yn amlach yn ystod y flwyddyn gyntaf. Bydd cofnodion cyfarfodydd y tasglu'n cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Bydd cyfarfod cyntaf y Tasglu yn canolbwyntio ar beth sy'n gweithio i hyrwyddo gwaith adfywio a thwf economaidd; sut y gall y cymoedd adeiladu ar ddatblygiadau presennol, gan gynnwys Dinas-Ranbarthau, y Fargen Ddinesig a'r Metro; y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau, yn arbennig mewn perthynas ag iechyd, addysg a thai; a meithrin cysylltiadau cymunedol. Mae amrywiaeth o arbenigwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), What Works Centre for Wellbeing a Sefydliad Bevan, wedi cael gwahoddiad. Byddant yn darparu tystiolaeth a fydd yn sail i ddatblygu blaenoriaethau'r Tasglu a'n rhaglen waith.  

Gan ddefnyddio cryfderau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector a gallu Llywodraeth Cymru i sbarduno newid, bydd y Tasglu'n gweithio yn ystod tymor y Cynulliad hwn i arwain ar waith adfywio a thwf cynaliadwy yn y Cymoedd. Fel cadeirydd y tasglu, rydw i am sicrhau canlyniadau mesuradwy a fydd yn gwella bywydau pobl sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae’r Cymoedd yn ardal arbennig o’r wlad a braint yw cael cadeirio’r Tasglu. Fy nod yw sicrhau canlyniadau penodol a fydd yn canolbwyntio ar wella safon byw pobl sy’n byw ar hyd a lled Cymoedd y De.