Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers sefydlu’r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, rwyf wedi cynnal cyfres o drafodaethau ynghylch ehangu’r aelodaeth i sicrhau cynrychiolaeth ar draws y sectorau.

Er ei bod yn bwysig cadw nifer aelodau’r tasglu yn fach er hwylustod, mae’n hollbwysig bod ganddynt sgiliau a phrofiadau o bob math.

Rwy’n falch, felly, o gael cyhoeddi y bydd Jocelyn Davies, cyn-Ddirprwy Weinidog Tai ac Adfywio Plaid Cymru yn ymuno â’r tasglu. Bydd  Jocelyn yn mynd i gyfarfod nesaf y tasglu, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 28 Tachwedd.

Bydd Jocelyn yn dod â chyfoeth o wybodaeth, arbenigedd a brwdfrydedd i’r tasglu. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi fel rhan o’r tasglu.