Eluned Morgan AS, Prif Weinidog
Yn dilyn y cyhoeddiad bod Great British Energy – Nuclear (GBE N) wedi dewis Adweithyddion Modiwlar Bach Rolls Royce ar gyfer safle Wylfa, mae Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at sut y bydd prosiectau niwclear yn y dyfodol yn cael eu datblygu yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi y cynhyrchu niwclear newydd yn yr Wylfa ers amser maith ac mae'n cydnabod y bydd y prosiect hwn yn chwarae rhan sylweddol wrth ddatgarboneiddio ein proses cynhyrchu ynni. Rydym eisoes wedi cadarnhau ein bod yn credu bod ynni niwclear yn cynhyrchu ynni glân ac yn elfen bwysig o'r gymysgedd ynni yn y dyfodol.
Gyda dynodi cyfundrefn gynllunio EN 7 newydd a chyhoeddi'r Fframwaith Niwclear Uwch, rydym yn rhagweld mwy o ddiddordeb gan ystod o ddatblygwyr mewn sawl safle posibl ledled Cymru.
Yng ngoleuni ymateb yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net i argymhellion y Tasglu Rheoleiddio Niwclear, hoffwn fynegi fy nghefnogaeth i'r egwyddorion o gyflymu cyflawni prosiectau seilwaith niwclear.
Mae datganiad polisi diweddaraf Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2026, sy'n sail i Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024, yn nodi proses newydd ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru. Ochr yn ochr â hyn, mae ein Bargen Sector Adnewyddadwy diweddar, sy'n anelu at gryfhau cadwyni cyflenwi a llwybrau sgiliau, yn cydnabod ynni niwclear fel rhan allweddol o gymysgedd ynni Cymru yn y dyfodol.
Wrth fwrw ymlaen â hyn, byddwn yn gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ysgogi cyfleoedd a thwf economaidd, tra'n parhau i ddiogelu ein hadnoddau naturiol a chynnal y safonau diogelwch uchaf.
