Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Tata a’r gweithwyr ers blynyddoedd lawer i ddiogelu dyfodol hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru ac yr ydym wedi annog Llywodraeth y DU i ddarparu'r buddsoddiad sydd ei angen, i gefnogi'r dulliau mwy gwyrdd o gynhyrchu dur.

Heddiw, cyhoeddwyd Tata Steel a Llywodraeth y DU gytundeb ar y cyd, i fuddsoddi mewn ffwrnais arc trydan arloesol ar gyfer creu dur ar safle Port Talbot, gyda buddsoddiad cyfalaf o £1.25 biliwn yn cynnwys grant gan Lywodraeth y DU o hyd at £500 miliwn. Bydd y trawsnewidiad yn cynnwys ailstrwythuro busnes presennol Tata Steel DU, ac i’w ddilyn gyda buddsoddiad mewn technoleg arc trydan, a fydd yn lleihau allyriadau uniongyrchol safle Port Talbot o 50 miliwn tunnell dros ddegawd. 

Fodd bynnag, mae llawer yn parhau i fod yn anhysbys  am y cytundeb a'r effaith bosibl, nid yn unig ar y gweithwyr a'r cwmni, ond ar y gadwyn gyflenwi ehangach a'r economi leol.

Felly, er bod y cyhoeddiad heddiw yn cynnwys buddsoddiad sylweddol ar gyfer y tymor hirach, mae'n anochel bod gweithwyr Tata, a'u teuluoedd, yn briodol, yn canolbwyntio ar yr effaith y caiff hyn ar y miloedd o swyddi ym Mhort Talbot a’u cyfleusterau i lawr yr afon.  

Bu heddiw yn ddiwrnod anodd i bawb sydd wedi eu heffeithio gan y cyhoeddiad hwn, ac mae'n dod ag ansicrwydd mawr i'r gymuned gyfan.

Mae hi’n arbennig o siomedig nad oedd yr undebau na Llywodraeth Cymru yn rhan o’r d y trafodaethau a arweiniodd at y cyhoeddiad hwn.   

Mae hi nawr yn hanfodol fod Tata yn cynnal trafodaethau cynhwysfawr gyda’r gweithwyr ac eu hundebau llafur, am eu cynigion. Fel y nodwyd gan Tata Steel, mae’r cytundeb yn amodol ar gymeradwyaeth rheoleiddiol perthnasol, prosesau gwybodaeth ac ymgynghori, ac ar gwblhau telerau ac amodau manwl. 

Mae llawer angen ei ysytried a bydd angen i bawb nawr ystyried y cyhoeddiad a'r amserlen arfaethedig yn fanwl

Bydd y penderfyniad y mae Tata Steel yn ei wneud, yn enwedig ar natur ac amserlen y  daith Datgarboneiddio, yn cael effaith ddofn ar y holl gadwyn gyflenwi a’r rhanbarth ehangach.

Am y rheswm hwn, yr wyf wastad yn ystyried dyfodol Tata yn ei gyfanrwydd o fewn ymdrech ehangach i gefnogi diwydiant Cymru ac i ddatblygu ein Sylfaen gweithgynhyrchu yn hytrach nag ar ei ben ei hun, wrth edrych ar ymateb i net sero.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwys a phwyslais enfawr ar bontio cyfiawn yn ein symudiad i economi sero net. Bydd yr economi yn newid, ond os caiff hyn ei gynllunio'n dda, gallwn fanteisio ar gyfleoedd newydd a lleihau colli swyddi gorfodol.

Cwrddais â chynrychiolwyr o undebau Community, GMB ac Unite heddiw i drafod y cyhoeddiad hwn a byddaf yn cyfarfod Tata eto yr wythnos nesaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r undebau llafur a'r cwmni i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau colli swyddi.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Aelodau yn y Senedd yr wythnos nesaf.