Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Yr haf diwethaf, estynnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Wahoddiad i Dendro i ddarparu ei Rhaglenni Dysgu Seiliedig ar Waith rhwng Awst 2011 a Gorffennaf 2014. Mae fy swyddogion wedi bod yn gwerthuso'r tendrau ac, erbyn hyn, maent yn barod i roi gwybod i dendrwyr beth yw canlyniad y broses.

Mae Dysgu Seiliedig ar Waith yn cwmpasu ein dwy raglen Brentisiaeth, yn ogystal â'r rhaglenni sy'n olynu ein rhaglen Adeiladu Sgiliau bresennol - Hyfforddeiaethau, i bobl ifanc nad ydynt wedi'u cyflogi, a Camau at Waith, i oedolion nad ydynt wedi'u cyflogi ac nad ydynt yn gymwys i gael hyfforddiant drwy'r Ganolfan Byd Gwaith.

Rydym wedi ceisio, drwy'r tendr, adeiladu ar sylfaen gref o weithredu i lefel uchel o fewn y rhwydwaith Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith newydd yn cefnogi polisïau allweddol Llywodraeth y Cynulliad, megis agenda 14-19 a'n polisi Gweddnewid ar gyfer pob oed. Rydym wedi sicrhau dysgu o'r ansawdd uchaf drwy dendr teg, agored a chystadleuol.

Mae canlyniad y tendr yn golygu y bydd y rhwydwaith sy'n darparu Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru yn newid yn y misoedd i ddod, gyda chontractau rhai darparwyr yn dod i ben, rhai newydd yn ymuno â'r rhwydwaith, a rhai darparwyr presennol yn dod ynghyd i weithredu fel consortia.

Ar yr un pryd â chyhoeddiad canlyniad y broses dendro, rwyf hefyd yn cyhoeddi fy nyraniadau i'r Prentisiaethau, yr Hyfforddeiaethau a Camau at Waith.

Rwyf wedi dewis ffocysu cymorth ar y rhaglen Hyfforddeiaethau yn benodol yn unol â'r flaenoriaeth bwysig a roddir gan Lywodraeth y Cynulliad i helpu pobl ifanc i gael gwaith. Rwyf, felly, yn cynyddu cyfran y cyllid Dysgu Seiliedig ar Waith a ddyrennir i Hyfforddeiaethau uwchlaw lefel hanesyddol y dyraniad i'r rhaglen Adeiladu Sgiliau i bobl ifanc.

O fewn y rhaglen Prentisiaethau, rwyf hefyd yn ffocysu'r cymorth sydd ar gael ar bobl ifanc yn ogystal â'r sectorau hynny a nodir yn flaenoriaethau o fewn Rhaglen Adnewyddu'r Economi, ac yn unol â'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt rhyngof fi a'r Dirpwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau yn ein Cytundeb Gweithredu Blynyddol. Rwyf hefyd wedi neilltuo £2 miliwn yn y dyraniad Dysgu Seiliedig ar Waith i ategu dysgu mewn Cwmnïau Angori.

O fewn rhaglenni Hyfforddeiaethau a Camau at Waith, rydym wedi ceisio, drwy ein dyraniadau, ymateb yn fwy i'r angen penodol mewn gwahanol rannau o Gymru, fel y dangosir, er enghraifft, gan gyfraddau diweithdra ardaloedd awdurdodau lleol. Rwy'n falch ein bod wedi gallu ffocysu ein cymorth ar ein blaenoriaethau ac ar anghenion gwahanol gymunedau ledled Cymru.

Rwy'n ymwybodol o'r ffaith y gallai'r newidiadau i'r rhwydwaith yn sgil canlyniad y tendr darfu ar rai dysgwyr sydd wrthi'n dysgu ar hyn o bryd. Mae unrhyw ddarparwyr cyfredol nad ydynt wedi tendro neu nad ydynt wedi sicrhau gwaith yn y dyfodol drwy'r tendr dan rwymedigaethau cytundebol mewn perthynas â newid yn y drefn. Mae'n ofynnol iddynt gefnogi'r broses o symud eu dysgwyr i ddarparwyr newydd.

Y tendrwyr llwyddiannus sy'n derbyn dysgwyr yn sgil y tendr sy'n bennaf gyfrifol am reoli'r broses ar gyfer y dysgwyr hyn.

Dim ond hyn a hyn y gall Llywodraeth y Cynulliad ei wneud yn y gwaith pontio ond bydd yn ceisio helpu i sicrhau bod dysgwyr sy'n cael eu symud yn gallu cwblhau eu dysgu, gan weithio gyda hen ddarparwyr a rhai newydd. Rydym wedi sefydlu llinell gymorth i unrhyw ddysgwyr y mae'r newidiadau yn effeithio arnynt, yn ogystal â'u cyflogwyr.