Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Chwefror 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Wahoddiad i Dendro ar gyfer cyflenwi’i rhaglenni Dysgu Seiliedig ar Waith rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2019, gyda’r opsiwn  o’i ymestyn hyd at fis Mawrth 2021.  Bellach mae swyddogion wedi gorffen gwerthuso’r cynigion ac ar fin rhoi gwybod i bobl am ganlyniad y broses

Mae  dysgu seiliedig ar waith yn ymwneud â’r rhaglenni Prentisiaethau, Hyfforddeiaethau a Twf Swyddi Cymru.

Rydym wedi ceisio, drwy’r broses dendro, i gael sylfaen gadarn o gyflenwyr o ansawdd uchel o fewn y rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith newydd yn ategu prif bolisïau Llywodraeth Cymru yn unol â’n Rhaglen Lywodraethu, ac rydym wedi sicrhau’r safon dysgu uchaf posibl drwy broses dendro deg, agored a chystadleuol.

Erbyn 2015-16, bydd y gyllideb Gymreig 10% yn is na’r gyllideb yn 2010-11 mewn termau real. Oherwydd y pwysau ariannol hwn, mae’r gyllideb Dysgu Seiliedig ar Waith wedi cael ei lleihau; yn ystod 2014-15 gwnaed toriad hefyd o £7m yn y llinell sylfaen.

Er gwaetha’r lleihad hwn yn y gyllideb dysgu seiliedig ar waith, rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi anghenion y rheini sy’n gadael yr ysgol i chwilio am gyfleoedd dysgu galwedigaethol. Felly, ni fydd yr arian ar gyfer y rhaglen Hyfforddeiaethau yn lleihau.

O ganlyniad i hyn, ni fydd y llai o arian ar gael i gyflenwi Prentisiaethau drwyddi draw. Byddwn yn rhoi arian tuag at brentisiaethau i’r rheini rhwng 16 a 24 mlwydd oed a Phrentisiaethau Uwch. Gwnaed y gostyngiadau hyn ar ôl ystyried yn ofalus yr holl opsiynau a oedd ar gael.

Gyda’i gilydd bydd  canlyniad y broses dendro a’r lleihad yn y gyllideb yn golygu y bydd y rhwydwaith sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn newid. Bydd contractau rhai darparwyr cyfredol yn dod i ben, a bydd newydd-ddyfodiaid yn cael cynnig Cytundeb Fframwaith. Ni wnaeth unrhyw newydd-ddyfodiaid fodloni’r meini prawf i gael Comisiwn Rhaglen. Bydd rhai darparwyr yn cael contractau sydd werth llai. Ryw’n disgwyl i’r darparwyr hynny gynnal ymarfer diwydrwydd dyladwy cyn penderfynu derbyn y cynnig.

Rwy’n ymwybodol bod y newidiadau i’r rhwydwaith oherwydd canlyniad y broses dendro yn debygol o amharu ar rai dysgwyr sydd eisoes yn dysgu.  Mae gan ddarparwyr cyfredol nad ydynt wedi tendro neu nad ydynt wedi cael gwaith yn y dyfodol oherwydd y broses dendro, rwymedigaeth cytundebol mewn perthynas â’r newid hwn.  Mae’n ofynnol iddynt gefnogi’r broses o symud eu dysgwyr i ddarparwyr newydd.

Bydd y rhieni  a fu’n llwyddiannus yn y broses dendro ac sy’n ddarparwyr sy’n derbyn dysgwyr sy’n symud oherwydd y broses dendro, yn bennaf gyfrifol am reoli’r broses bontio ar gyfer y dysgwyr hyn.  

Mae rôl Llywodraeth Cymru yn y broses bontio yn gyfyngedig, ond bydd yn ceisio sicrhau bod dysgwyr sy’n symud yn gallu cwblhau eu  dysgu, gan weithio gyda hen ddarparwyr a darparwyr sy’n derbyn dysgwyr. I’r perwyl hwn, rydym wedi sefydlu llinell gymorth i unrhyw ddysgwr sy’n y mae’r newidiadau’n effeithio arnynt, a’u cyflogwyr. Gall dysgwyr, eu rhieni a/neu’u cyflogwyr ffonio’r llinell gymorth ar 0845 6005779.