Neidio i'r prif gynnwys

Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n ymwybodol o'r heriau ariannol mawr sy'n wynebu'r sector addysg uwch yng Nghymru ac rwy'n benderfynol o helpu ein sefydliadau i reoli'r heriau hyn. Mae prifysgolion yn hanfodol i'n ffyniant economaidd, a'n hanes dinesig a diwylliannol ac maent yn gwneud gwaith pwysig i gyflawni ein huchelgais ar gyfer addysg, ymchwil a datblygu sgiliau.

Mae'r ffi ddysgu a godir ar fyfyriwr mewn addysg uwch yn fater i ddarparwr y cwrs.  Mae deddfwriaeth Cymru yn nodi cyfyngiadau penodol ar godi ffioedd fel bod addysg uwch yn parhau i fod yn fforddiadwy. Mae Gweinidogion Cymru yn gosod terfynau ar ffioedd dysgu – capiau ffioedd – ar gyfer pobl gymwys sydd ar gyrsiau cymwys mewn sefydliadau a reoleiddir yng Nghymru. Darperir capiau ffioedd ar gyfer pob myfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs cymwys yng Nghymru, nid myfyrwyr o Gymru yn unig.

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu uchafswm y ffioedd dysgu y ceir eu codi yn Lloegr o £9,790 i £10,050. Rwyf innau o'r farn bod angen yr un cynnydd yng Nghymru. 

Felly, gallaf gadarnhau y bydd y cap ffioedd yng Nghymru yn cael ei gynyddu o £9,790 i £10,050 ar gyfer blwyddyn academaidd 2027/28, a fydd yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Bydd yn rhaid dilyn proses reoleiddio arferol Llywodraeth Cymru a rhaid i'r Senedd ei gymeradwyo. Yn ystod cyfnod o heriau sylweddol a pharhaus i'n sector prifysgolion, bydd y cynnydd yn darparu oddeutu £18m ychwanegol mewn refeniw ffioedd dysgu ar gyfer addysg uwch yng Nghymru. Bydd y benthyciadau ar gyfer ffioedd dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr Cymru yn cynyddu yn unol â hynny.

Rwy'n cydnabod pwysigrwydd addysg uwch ran-amser wrth gefnogi'r economi yng Nghymru a chreu gweithlu mwy amrywiol, profiadol a medrus. Er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth ran-amser yn parhau i fod yn gynaliadwy, rwy'n cyflwyno cynnydd o 1.8% (£55) yn uchafswm y benthyciad ffioedd dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser ar gyfer blwyddyn academaidd 2027/28.

Y cynnydd yn ffioedd y flwyddyn nesaf yw'r pedwerydd cynnydd blynyddol yn olynol mewn capiau ffioedd dysgu llawnamser, gan ddarparu refeniw ychwanegol sylweddol i'r sector mewn cyfnod o her ddigynsail. Yn 2024/25, nododd prifysgolion Cymru, o gyfuno'r ffigurau, ddiffyg gweithredol o £81 miliwn, gan dyfu o £56 miliwn yn 2023/24. Ochr yn ochr â hyn yn 2024/25, roedd 640 yn llai o staff ar gontractau safonol mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru nag yn 2023/24.  O ystyried ffactorau fel hyn, nid oes gennyf lawer o opsiynau, yn enwedig o gofio bod cyfran fawr o incwm prifysgol yn cael ei gynhyrchu trwy ffioedd dysgu.

Rwy'n cydnabod bod y cynnydd yn y cap ffioedd yn debygol o olygu mwy o fenthyca i fyfyrwyr, ac rwy'n deall y pryderon y gall hyn eu hachosi. Nid yw hwn yn benderfyniad y mae unrhyw Weinidog eisiau ei wneud, ond mae'n rhaid i mi gydbwyso'r effaith ar fyfyrwyr gyda'r angen i gynnal addysg uwch o safon yng Nghymru ar adeg o straen ariannol dybryd.

Rwyf am fod yn glir nad yw cynnydd mewn ffioedd dysgu yn effeithio ar y costau a delir ymlaen llaw gan fyfyrwyr prifysgol, ac nid yw hyn yn golygu cynnydd yn ad-daliadau misol benthyciadau ar ôl graddio.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnig un o'r systemau cymorth cynhaliaeth myfyrwyr mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, sy'n adlewyrchiad o'n hymrwymiad i sicrhau nad yw amgylchiadau ariannol yn rhwystr i addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys grantiau cynhaliaeth nad oes rhaid eu had-dalu i israddedigion cymwys, ac mae yna grant sylfaenol ar gael waeth beth fo incwm yr aelwyd a chymorth grant ychwanegol i'r rhai o aelwydydd sydd ar incwm is. Rydym yn canslo hyd at £1,500 o ddyled benthyciadau cynhaliaeth ar gyfer benthycwyr cymwys pan fyddant yn dechrau talu'n ôl.

Mae'r buddsoddiad hwn yn sector addysg uwch Cymru yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu sefydliadau wrth iddynt fynd i'r afael â chostau cynyddol, gan ddiogelu'r ddarpariaeth a'r profiad i fyfyrwyr. Ond rydym yn ymwybodol na all pethau barhau fel ag y maent. Mae ein hadolygiad parhaus o addysg uwch yn ystyried sut mae'r sector yn cael ei ariannu a'i drefnu i sicrhau bod y system yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus yn y dyfodol.