Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Yn rhan o’r gwaith paratoi at etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, rhaid gosod terfynau newydd ar gyfer gwariant ymgyrchu. Mae’r newid i’r system etholiadol yn golygu bod y terfynau presennol yn anaddas gan eu bod wedi’u gosod ar gyfer rhanbarthau amlaelod ac etholaethau un sedd.
Rwy’n falch o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd ynghylch y terfynau arfaethedig ar gyfer ymgeiswyr unigol a phleidiau cofrestredig. Daw hyn ar ôl ymgynghori ar Orchymyn drafft Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) a therfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn etholiadau i’r Senedd, yn ogystal â thrafodaethau manwl â’r Comisiwn Etholiadol.
Bydd y terfyn ar gyfer ymgeiswyr unigol yn cael ei osod yn y “Gorchymyn Cynnal Etholiadau” sydd ar ddod, sy’n sefydlu’r rheolau ar gyfer cynnal etholiadau'r Senedd. Rhaid i’r terfyn hwnnw fod ar sail argymhelliad y Comisiwn Etholiadol, sydd bellach wedi dod i law. Yn unol â’r argymhelliad hwnnw, mae’r cynnig yn y Gorchymyn Cynnal Etholiadau, a fydd yn cael ei osod ar ôl toriad y Pasg, ar gyfer terfyn o £52,500. Dyma’r un lefel â’r terfyn arfaethedig ar gyfer rhestr plaid o un ymgeisydd, gan felly sicrhau cydraddoldeb.
Mae terfynau ar gyfer pleidiau cofrestredig wedi’u gosod yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 a bydd rheoliadau drafft i ddiwygio’r terfynau hynny yn cael eu gosod gerbron y Senedd yn nhymor yr haf. Dim ond gyda chydsyniad y Comisiwn Etholiadol y gellir gwneud y rheoliadau hyn, ac er na ellir gofyn am gydsyniad ffurfiol hyd nes bod y rheoliadau drafft wedi’u cwblhau, mae cydsyniad mewn egwyddor wedi'i sicrhau ar sail y terfynau a ganlyn:
Ar gyfer rhestr plaid o un ymgeisydd, £52,500 yw’r terfyn a gynigir. Wedyn, cynigir ei gynyddu £3,500 fesul pob ymgeisydd ychwanegol ar y rhestr, hyd at uchafswm o £70,000 ar gyfer rhestr o chwech neu ragor. Mae hyn yn darparu terfyn uchaf tebyg i’r system bresennol ar gyfer plaid a’i hymgeiswyr sy’n sefyll ym mhob etholaeth.
Bydd y ddau ddarn o is-ddeddfwriaeth yn cael eu gosod gerbron y Senedd yn ystod tymor yr haf ynghyd â memoranda esboniadol a fydd yn nodi’n fanylach y broses sydd wedi’i rhoi ar waith i sefydlu’r terfynau hyn. Edrychaf ymlaen at y gwaith craffu ar yr offerynnau pwysig hyn.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.