Jack Sargeant AS, Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Yfory, bydd tîm pêl-droed Merched Cymru yn chwarae ei gêm agoriadol yng nghystadleuaeth UEFA Ewro 2025 y Merched yn erbyn yr Iseldiroedd. Ar ran Llywodraeth Cymru a'r genedl, hoffwn ddanfon fy nymuniadau gorau i'r tîm.
Bydd y Prif Weinidog yn bresennol yn y gêm yfory yn Lucerne ac mi fyddaf i yno i gefnogi'r tîm pan fyddaf yn mynychu'r gêm yn erbyn Lloegr penwythnos nesaf, ar Ddydd Sul 13 o Orffennaf.
Wrth i'r chwaraewyr fynd i'r cae ym mhob un o'u gemau, byddant yn gwneud hynny gyda'n cefnogaeth lawn y tu ôl iddynt. Bydd yr anogaeth gan gefnogwyr, eu teuluoedd a ffrindiau yn ffynhonnell o gryfder a chymhelliant iddynt yn y gystadleuaeth.
Bydd gennym hefyd dîm cymhellol a chefnogol oddi ar y cae. Gan ddefnyddio platfform tîm merched Cymru a'n buddsoddiad o £1m trwy Gronfa Cefnogi Partneriaid Ewro 2025, byddwn ni a'n partneriaid yn dangos i'r byd ddathliad chwaraeon a diwylliannol bywiog ar draws Cymru ac yn y Swistir.
Wrth i arwyr pêl-droed Cymreig Jess Fishlock, Sophie Ingle ac Angharad James arddangos eu sgiliau ar y cae, oddi ar y cae, bydd artistiaid gan gynnwys Aleighcia Scott, Adwaith a DJ Molly Palmer yn serennu mewn rhaglen ddiwylliannol yn amlygu ein hiaith, cerddoriaeth, creadigrwydd a'n gwerthoedd o gydraddoldeb a chynhwysiant.
Bydd cynulleidfaoedd yn ninasoedd y Swistir, Lucerne a St Gallen, yn profi amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol gan gynnwys perfformiadau byw gan weithredoedd cerddorol dwyieithog. Ar strydoedd y Swistir, bydd #FelMerchGwerin, casgliad o chwe merch ifanc o Gymru, dawnswyr a cherddorion gwerin o’r Urdd yn cyflwyno ail-ddehongliad beiddgar o draddodiad Cymreig. Mae Llenyddiaeth Cymru wedi comisiynu’r bardd Sarah McCreadie i ddogfennu ymdrechion sy'n gwneud hanes tîm Cymru a gwerthoedd cefnogwyr wrth iddynt ddigwydd yn y Swistir.
Bydd y rhaglen ddiwylliannol wrth ochr digwyddiadau cefnogwyr, gemau cefnogwyr rhyngwladol, a mentrau fel Merched yn Gwneud Miwsig ac Hacathon Llysgennad Ifanc Ashoka yn archwilio cydraddoldeb a chynhwysiant mewn chwaraeon. Bydd cydweithrediadau diwylliannol trawswladol hefyd yn thema allweddol, gyda rhaglennu ar y cyd gyda chreadigol o'r Swistir a'r Iseldiroedd.
Y gystadleuaeth 16 tîm yn y Swistir yw'r cyntaf sydd â datganiad hawliau dynol, ac mae llu o bartneriaid o Gymru dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi llofnodi datganiad gwerthoedd mewn ymateb, gan weithredu fel mudiad dros gyfiawnder, cydraddoldeb, a grymuso menywod trwy chwaraeon, diwylliant ac arweinyddiaeth.
Yn ôl yng Nghymru, mae'r prosiectau'n cynnwys digwyddiadau sgrinio, gweithgareddau ymgysylltu pêl-droed ar gyfer pobl ifanc, pecynnau hyfforddi a chefnogi ar gyfer hyfforddwyr a dyfarnwyr benywaidd a dathliadau diwylliannol. Maent hefyd yn cynnwys rhai prosiectau unigryw fel y murlun cyntaf pêl-droedwraig benywaidd ymroddedig Ewrop wedi'i ysbrydoli gan Jess Fishlock yn Splott, Caerdydd, gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, twrnameintiau pêl-droed i fenywod sydd wedi profi digartrefedd neu gaethiwed, a ffilm fer am y chwiorydd sydd wedi dod yn ddyfarnwyr ac yn hyfforddwyr Mwslimaidd benywaidd cyntaf Cymru.
Gellir dod o hyd i'r holl weithgareddau hyn a mwy mewn Calendr Digwyddiadau UEFA Ewro 2025 sydd ar gael ar-lein yma.