Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd Llywodraeth Cymru yn falch o sefydlu cynllun y Tocyn Croeso ym mis Mawrth 2022. Mae'r cynllun yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, sy'n rhan o becyn o fesurau i helpu Wcreiniaid, Affganiaid a ffoaduriaid eraill i integreiddio'n fwy effeithiol ym mywyd Cymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym yn amcangyfrif i'r cynllun hwn sicrhau tua miliwn o deithiau am ddim. 

Roedd y Tocyn Croeso yn un o amodau'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau ac yna’r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau gwerth £200m, a gafodd eu rhoi ar waith i helpu i gefnogi adferiad y diwydiant bysiau a rheilffyrdd ar ôl y pandemig. Daw'r gronfa hon i ben ar 31 Mawrth 2024 ac, o ganlyniad, bydd cynllun presennol y Tocyn Croeso hefyd yn dod i ben ar y dyddiad hwnnw. 

Rydym yn cydnabod y manteision a'r angen parhaus am gynllun sy'n debyg i'r Tocyn Croeso i helpu ceiswyr lloches sydd newydd gyrraedd i integreiddio. Fodd bynnag, er bod cynllun presennol y Tocyn Croeso wedi'i groesawu'n fawr ac wedi bod yn hynod fuddiol, bu rhai heriau wrth gyflawni amcanion y cynllun sydd wedi arwain at ddigwyddiadau siomedig a thrafferthus. Felly, rydym yn adolygu'r hyn a ddysgwyd o'r cynllun wrth inni ystyried sut y gellid lansio cynllun gwell yn y dyfodol.

Ein bwriad yw sefydlu cam newydd o gynllun y Tocyn Croeso yn 2024 sy'n gynaliadwy ac yn addas i'r diben, gan sicrhau y gellir canolbwyntio ein hadnoddau ar y rhai mwyaf anghenus. Byddai'r cynllun newydd yn cael ei gynllunio i atal gwahaniaethu a'r sefyllfaoedd anfwriadol eraill yr ydym wedi dod ar eu traws yng ngham presennol y cynllun.

Hoffwn ddiolch i'n gweithredwyr cludiant a'n staff ledled Cymru sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf i roi croeso cynnes i deuluoedd ac i unigolion yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r gweithredwyr teithio, awdurdodau lleol, y trydydd sector a cheiswyr lloches, wrth ddatblygu'r cam newydd hwn o'r cynllun. Rwy'n disgwyl gallu darparu diweddariad pellach yn ystod yr haf.

Mae gwybodaeth am gynlluniau tocynnau teithio rhatach eraill Llywodraeth Cymru ar gael drwy www.traveline.cymru.