Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ddydd Mercher, 13 Awst, rhoddodd Dŵr Cymru wybod i Lywodraeth Cymru fod gwaith a oedd wedi’i wneud o’r blaen i drwsio piben wedi byrstio yn y prif gyflenwad ger Gwaith Trin Dŵr Bretton yn Sir y Fflint wedi dirywio, a bod angen ei drwsio ar frys. Arweiniodd hyn at dorri’r cyflenwad dŵr i nifer fawr o adeiladau yn yr ardal.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru ei threfniadau ymateb ar waith i gefnogi ymateb aml-asiantaeth ehangach ei bartneriaid o Fforwm Gwydnwch Lleol y Gogledd er mwyn ceisio rheoli risgiau'r digwyddiad.
Effeithiodd y digwyddiad ar lawer o bobl yn ardal Sir y Fflint, ac rwy'n deall i rai cymunedau deimlo'i effaith am sawl diwrnod.
Sefydlwyd tair gorsaf dŵr potel, yn ogystal â chanolfannau cymunedol, i ddarparu dŵr. Bu Dŵr Cymru yn dosbarthu dŵr potel i unigolion bregus ac yn cynnal cyflenwadau i ysbyty ac i gartrefi gofal. Hoffwn fynegi fy niolch i Dŵr Cymru a’i weithlu am adfer cyflenwadau dŵr i'r holl gwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt. Roedd y byrst yn un sylweddol, ac roedd y gwaith o'i drwsio yn gymhleth oherwydd y problemau a achoswyd gan fod y gollyngiad mor ddwfn.
Gall colli cyflenwad dŵr am unrhyw gyfnod estynedig gael effaith sylweddol, yn enwedig yn ystod tywydd poeth. Mae'n destun helbul a gofid i bob preswylydd, yn enwedig i'r rhai sy'n agored i niwed neu sy'n derbyn cymorth iechyd neu ofal. Hoffwn gydnabod nerth y cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt, a chydymdeimlo â'r sefyllfa anodd y gwnaethant ei hwynebu.
Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi trefniadau i dalu iawndal i gwsmeriaid preswyl a busnes a da hynny. Cewch y manylion ar eu gwefan: Taliadau Ewyllys Da ar gyfer Cwsmeriaid Dibreswyl yn Sir y Fflint (h.y. Cwsmeriaid Busnes) | Dŵr Cymru Welsh Water
Dyma'r ail ddigwyddiad mawr i effeithio ar y cyflenwad dŵr yn y Gogledd eleni. Fel gyda'r digwyddiad yng Nghonwy ym mis Ionawr, gall digwyddiadau o'r math hwn ddysgu llawer o wersi i ni. Cefais gyfarfod â Dŵr Cymru ar 19 Awst, ac roedd yn dda cael cadarnhad eu bod wedi defnyddio gwersi o'r digwyddiad yng Nghonwy wrth ymateb i'r digwyddiad hwn. Bydd Dŵr Cymru yn astudio'r digwyddiad hwn hefyd, gan nodi beth oedd yn gweithio'n dda ac unrhyw feysydd y mae angen eu gwella. Rwy'n falch ei fod yn parhau i ddysgu o'r digwyddiadau hyn i wella'r ymateb i unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol.
Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed yw'r rheoleiddiwr sy'n cadw golwg ar ba mor barod mae cwmnïau dŵr am ddigwyddiadau fel hyn, a byddwn yn aros am eu casgliadau yn dilyn eu hadolygiad o'r digwyddiad.
Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod seilwaith y diwydiant dŵr yn wydn. Dangosir y pwysau sydd ar ein seilwaith yng nghanlyniad yr adolygiad prisiau diweddar, a fydd yn gweld dros £6bn yn cael ei fuddsoddi yn seilwaith dŵr Cymru yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf. Bydd Llywodraeth Cymru, ac Ofwat, yn cadw golwg fanwl ar y rhaglen uchelgeisiol hon o welliannau, i sicrhau bod arian y rheini sy'n talu am ddŵr yn cael ei wario'n effeithiol. Mae'r Comisiwn Dŵr Annibynnol hefyd wedi cyflwyno nifer o argymhellion mewn cysylltiad â gwytnwch. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n eu hystyried yn ofalus, yn ogystal â'r argymhellion yn adroddiad terfynol y Comisiwn a gyhoeddwyd fis diwethaf.
Hoffwn ddiolch i bawb yn y gymuned leol, gwirfoddolwyr a'r sefydliadau a'r unigolion niferus a gyfrannodd at helpu'r rheini y gwnaeth y digwyddiad hwn effeithio arnyn nhw. Roeddwn yn arbennig o falch o weld y cydweithio rhwng Dŵr Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint, yr Heddlu a'r gwasanaethau Tân ac Ambiwlans.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Pe bai Aelodau angen atebion i unrhyw gwestiynau am y digwyddiad pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i ymateb.
