Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae partneriaeth gymdeithasol yn rhan annatod o'r ffordd y mae trafnidiaeth yn cael ei darparu yng Nghymru. Mae'n sail i'm dull o ddiwygio a chyflawni trafnidiaeth, yn ogystal ag ymgysylltu â'r gweithlu ym mhob rhan o'r system drafnidiaeth.
Mae'n bleser gennyf gadarnhau bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) bellach wedi cwblhau cytundeb cydnabyddiaeth undebau llafur ffurfiol ar gyfer staff y sefydliad nad ydynt yn staff gweithredol. Mae hwn yn gam pwysig i TrC fel sefydliad sy'n eiddo i'r cyhoedd ac yn enghraifft amlwg o bartneriaeth gymdeithasol yn cael ei rhoi ar waith, yn unol â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
Nid yw wedi bod yn broses syml i ddod i'r cytundeb hwn. Bu'n rhaid inni ymgysylltu'n barhaus ar faterion cymhleth a bu'n rhaid i bob parti fod yn barod i fynd i'r afael â heriau trwy gynnal trafodaethau. Mae'r dull hwnnw wedi ein galluogi i wneud cynnydd adeiladol, gan wneud gwaith ymgysylltu trwy gydol y broses a gosod sylfaen gadarn er mwyn cynnal cysylltiadau diwydiannol effeithiol yn Trafnidiaeth Cymru.
Mae'r cytundeb hwn yn rhan o raglen gweithio mewn partneriaeth ehangach rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, a'r undebau llafur. Trwy ymgysylltu rheolaidd ar lefel uwch, mae egwyddorion partneriaeth gymdeithasol wedi'u hymgorffori mewn diwygiadau mawr, gan gynnwys y gwaith o fasnachfreinio bysiau ac integreiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth. Mae undebau llafur wedi cyfrannu at ddatblygu safonau cyflogaeth ac wedi bod yn ymgysylltu'n gynnar â newid sefydliadol a diwylliannol wrth i TrC weithio tuag at ein hamcanion cyffredin o un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn, un tîm.
Mae'r un fforwm wedi cynnig lle i drafod perfformiad gweithredol a gwydnwch, gan gynnwys dibynadwyedd rheilffyrdd, cerbydau ac effaith tywydd eithafol. Mae trafod y materion hyn yn agored wedi cefnogi tryloywder, wedi hyrwyddo dealltwriaeth gyffredin o gyfyngiadau ac atgyfnerthu cyfraniad y gweithlu i wella gwasanaethau i deithwyr. Mae hyn wedi bod yn ffactor pwysig wrth i berfformiad TrC o ran prydlondeb, boddhad cwsmeriaid a dibynadwyedd y gwasanaeth wella.
Mae'r cytundeb cydnabyddiaeth sy'n cael ei lofnodi heddiw (20 Mawrth) yn arwydd o newid ehangach yn y ffordd y mae newid yn cael ei gyflawni. Mae'n atgyfnerthu'r egwyddor bod dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru yn cael ei llywio ar y cyd â'r gweithlu, trwy ymgysylltu'n gynnar a rhannu cyfrifoldeb. Wrth i'r gwaith o ddiwygio bysiau a'r rheilffyrdd fynd rhagddo, bydd y dull hwn yn parhau i fod yn hanfodol i gefnogi gwaith teg a darparu system drafnidiaeth fodern ac integredig i Gymru.
