Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Hydref 2025, cyhoeddais fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol y Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae'r Cynlluniau hyn yn pennu'r cyfeiriad strategol ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth ledled Cymru ac yn darparu'r fframwaith i'r rhanbarthau gyflawni Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Rwy'n falch o gyhoeddi nawr bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo rhaglen waith 2026-27 ar gyfer pob rhanbarth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi moderneiddio ei grantiau trafnidiaeth drwy gyfuno sawl ffrwd ariannu yn un Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol, gan symleiddio prosesau ar gyfer awdurdodau lleol a galluogi penderfyniadau buddsoddi rhanbarthol cydgysylltiedig. Trwy dynnu ar wybodaeth ac arweinyddiaeth ranbarthol, mae'r Gronfa yn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau mwy strategol, hirdymor, gan leihau beichiau gweinyddol i Awdurdodau Lleol.

Dyfarniadau Cyllid y Rhaglen Trafnidiaeth Ranbarthol

Drwy Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol 2026–27 a dyraniadau Burns nad ydynt yn gysylltiedig â rheilffyrdd, mae'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cyflawni nodau Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy'n gyson â'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy. Mae dros hanner rhaglenni gwaith y Cyd-bwyllgorau Corfforedig (£58.5 miliwn, sy'n cynrychioli dros 50% o gyfanswm y cyllid) wedi'u cyfeirio at gerdded, olwyno a beicio. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn derbyn £20.9 miliwn (18%), tra bod cynlluniau priffyrdd yn cyfrif am £24.1 miliwn (dros 20%). Mae'r cyllid ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd (£7.0 miliwn, dros 6%) a seilwaith gwefru cerbydau trydan (£3.9 miliwn, dros 3%) yn parhau i ganolbwyntio ar welliannau wedi'u targedu, gyda gwaith rheoli'r rhaglen yn cynrychioli 1.3% o'r cyfanswm. Yn gyffredinol, mae'r buddsoddiad o £115.9 miliwn yn adlewyrchu newid clir tuag at ddulliau teithio iachach, carbon isel fel rhan o broses gyflawni'r strategaeth drafnidiaeth.

Yn y Gogledd, rydym yn buddsoddi £28.8 miliwn yn 2026-27, gyda phwyslais cryf ar gefnogi cerdded, olwyno a beicio, drwy gynlluniau fel cynllun Bae Penrhyn yng Nghonwy.

Yn y Canolbarth, rydym yn buddsoddi £13.1 miliwn yn 2026-27, gan gynnwys £2.4 miliwn i gwblhau cynllun i greu parth i gerddwyr ar Stryd Fawr Aberhonddu, gan wella gwaith creu lleoedd a mynediad diogel i gerdded, olwyno a beicio.

Yn y De-orllewin, rydym yn buddsoddi £24.7 miliwn yn 2026-27, gyda chymorth ar gyfer agor cyfnewidfa deithio Hwlffordd yn un o'r elfennau pwysig.

Yn y De-ddwyrain, rydym yn buddsoddi £49.3 miliwn yn 2026-27, gan gynnwys gwella cyfnewidfa Caerffili i gefnogi cysylltiadau aml-ddull gwell. Yn ogystal â'r Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol, mae hyn yn cynnwys cyllid parhaus ar gyfer rhaglen Burns nad yw'n gysylltiedig â rheilffyrdd, gan alluogi cynnydd y blaenoriaethau a nodwyd drwy Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru i gefnogi system drafnidiaeth fwy gwydn a chynaliadwy o amgylch coridor yr M4. Mae'r cyllid hwn yn cyd-fynd yn uniongyrchol ag uchelgeisiau rhanbarthol ar gyfer De-ddwyrain Cymru ac yn ategu buddsoddiadau arfaethedig o dan y Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol newydd. Mae'r dull hwn yn helpu i sicrhau gwaith cyflawnicydgysylltiedig a phecyn cydlynol o fesurau ar draws y rhanbarth. 

Mae rhaglenni gwaith rhanbarthol 2026-27 yn dangos ein hymrwymiad i ddull un tîm ac maent yn ffrwyth yr ymddiriedaeth yr ydym wedi'i roi yn ein partneriaid: y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, Awdurdodau Lleol, Trafnidiaeth Cymru, a rhanddeiliaid ehangach i ddarparu system drafnidiaeth fodern, gynaliadwy ac integredig ledled Cymru.

Mae rhestr lawn o gynlluniau a ariennir i'w leoli ar ein tudalen we Grantiau trafnidiaeth rhanbarthol a ddyfarnwyd 2026 i 2027