Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gyhoeddi canllawiau newydd ar sut y gallwn ehangu dewisiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig wrth i ni anelu at gyrraedd ein targedau cyffredinol yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru

Er mwyn cyrraedd ein targedau o ran allyriadau carbon cyfreithiol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, teithiau cerdded a beicio yn cyfrif am 45% o deithiau erbyn 2040 (i fyny o 32% yn 2021). Bydd cyflawni hyn mewn ardaloedd gwledig yn gofyn am ddull gwahanol i'r hyn a fydd yn cael ei wneud yn y rhan fwyaf o ardaloedd trefol. 

Mae ein canllawiau newydd ar 'Drafnidiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig' yn darparu astudiaethau achos yn y byd go iawn, yn rhyngwladol ac o Gymru, ar ddulliau llwyddiannus y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i lywio'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol sy'n cael eu datblygu.

Heddiw, byddaf yn cynnal seminar gyda rhanddeiliaid amrywiol i drafod y canllawiau hyn, a'r heriau a'r cyfleoedd yr ydym oll yn eu hwynebu wrth wella trafnidiaeth wledig yng Nghymru. 

Er mwyn bwrw ymlaen ag un o'r enghreifftiau astudiaeth achos o'r canllawiau hyn, gallaf heddiw gyhoeddi grant gwerth £1m i greu rhwydwaith o glybiau ceir mewn cymunedau gwledig ledled Cymru.

Mae clybiau ceir yn ffordd hawdd a fforddiadwy i bobl rannu'r defnydd o gar heb y costau sydd ynghlwm wrth fod yn berchen ar un. 

Consortiwm o sefydliadau'r trydydd sector i sicrhau bod clybiau ceir trydan cymunedol ar gael yn ehangach o lawer a'u bod yn hyfyw i gymunedau gwledig yng Nghymru. 

Bydd grant y clwb ceir yn cael ei arwain gan Robert Owen Community Banking ar y cyd â TrydaNi a TripTo, sydd rhyngddynt eisoes yn gweithredu clybiau ceir yn y Drenewydd,  Llanidloes, Machynlleth, Penrhyn-coch, Crymych, Rhydaman, Cilgeti, Llanymddyfri a Llandrindod.