Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Ar 20 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i lansio trafodaethau masnach gyda Gwladwriaeth Israel.
Bydd y trafodaethau hyn yn adeiladu ar gytundeb masnach a phartneriaeth bresennol y DU-Israel(TPA), cytundeb parhad a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae'r TPA yn dwyn ynghyd dri prif gytundeb presennol yr oedd y DU yn rhan ohonynt tra'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
Yn 2021, cyrhaeddodd masnach nwyddau rhwng Cymru ac Israel bron i £90m, ac roedd mewnforion ac allforion yn werth tua £22.2m a £65.6m yn y drefn honno.
Byddwn yn cysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i ddeall effeithiau'r fargen fasnach hon ar sectorau yng Nghymru. Ar ôl ei gwblhau, bydd y cytundeb masnach rydd yn ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr hinsawdd wleidyddol sensitif y cynhelir y trafodaethau hyn ynddi.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.