Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ar 17 Ebrill, cefais gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i drafod hynt y trafodaethau sy’n mynd ymlaen ar ddiwygio’r drefn gyllido.

Fe wnaethom ni nodi’r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o’r sylfaen tystiolaeth. Hefyd, fe wnaethon ni gytuno y byddai swyddogion o’r ddwy Lywodraeth yn parhau i gydweithio’n agos dros yr wythnosau nesaf. Y bwriad yw i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau cyn torri am yr haf, a bydd y Prif Ysgrifennydd a minnau’n cyfarfod eto bryd hynny i ystyried y ffordd ymlaen, a hynny cyn adroddiad Comisiwn Silk ar ddatganoli pwerau ariannol sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn.

Mae’r Prif Ysgrifennydd a minnau wedi ailddatgan ymrwymiad y ddwy Lywodraeth i ymdrin yn adeiladol â phob mater sy’n ymwneud â diwygio’r drefn gyllido. Roeddem yn cytuno y dylai setliad ariannol Cymru ddarparu tegwch ac atebolrwydd i Gymru o fewn Teyrnas Unedig gref.