Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n dda gen i gyhoeddi bod yr Adroddiad Blynyddol cyntaf, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) wedi ei osod gerbron y Cynulliad.

Mae’r adroddiad yn ymdrin â’r cyfnod rhwng y dyddiad y daeth adran 12 o’r Ddeddf i rym (sef 5 Hydref 2015) a diwedd y flwyddyn ariannol ganlynol (31 Mawrth 2017). Mae'n trafod y cynnydd a wnaethpwyd o ran cyflawni diben y Ddeddf a’r nodau sydd i’w gweld yn y strategaeth genedlaethol sy’n ategu’r Ddeddf.

Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd sylweddol a wnaethpwyd o ran rhoi'r Ddeddf ar waith, megis penodi’r Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf, datblygu ffordd o drafod Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar lefel yr ysgol gyfan a sefydlu Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol sy'n ymdrin â'r pwnc. Hefyd, lansiwyd yr ymgyrch “Gofyn a Gweithredu”.

Gallwch weld yr adroddiad yma: http://www.assembly.wales/laid documents/gen-ld11358/gen-ld11358-w.pdf