Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod pedwerydd adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ("y Ddeddf") wedi'i osod gerbron y Senedd.

Mae'r adroddiad, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 yn disgrifio'r cynnydd a wnaed  tuag at gyflawni dibenion y Ddeddf a'r amcanion a nodir yn y strategaeth genedlaethol sy'n cyd-fynd â'r Ddeddf.

Mae'r adroddiad yn nodi'r cynnydd sylweddol a wnaed yn ystod 2019-20, fel parhau â'r ymgyrch gyfathrebu hynod effeithiol "Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn'; hyfforddiant Gofyn a Gweithredu i bron 2,000 o weithwyr sector cyhoeddus ychwanegol; a chyhoeddi canllaw anarbenigol i wasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio gyda chyflawnwyr sy'n oedolion.