Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o roi gwybod ichi fod Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2021-22 – Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) wedi’i gyhoeddi. Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r cyfnod o 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022. Un o ofynion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yw bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad sy'n rhoi sylw i’r cynnydd a wnaed ym mhob blwyddyn ariannol.

Y llynedd, canolbwyntiodd yr adroddiad cynnydd blynyddol ar ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19, gan gydnabod y gefnogaeth hanfodol a gafodd ei chynnig gan y sector VAWDASV a'r gwasanaethau arbenigol – a oedd yn help aruthrol i ddioddefwyr a goroeswyr yn ystod cyfnod mor heriol. Er bod adroddiad 2021-22 hefyd yn cyfeirio at y cyfnod digynsail hwnnw yn ystod y pandemig, gwelwyd cynnydd sylweddol hefyd yn erbyn yr amcanion a nodwyd yn strategaeth genedlaethol VAWDASV ar gyfer 2016-21. Yn ogystal, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith datblygu a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd cyn cyhoeddi strategaeth genedlaethol 2022-26 yn gynharach eleni

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n rhwydwaith rhagorol o sefydliadau a gwasanaethau arbenigol yng Nghymru. Mae’r sefydliadau a’r gwasanaethau hyn yn gweithio mor galed i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin ar sail rhywedd – yn ogystal â chefnogi'r rhai sy'n poeni am eu hymddygiad neu sy'n cyflawni camdriniaeth, er mwyn eu helpu i wneud newidiadau cadarnhaol. Rwyf bob amser wedi bod yn glir ynghylch ein huchelgais o roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, a'n huchelgais i wneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw. Byddwn yn parhau i frwydro yn erbyn pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Ni fydd Cymru’n goddef camdriniaeth.

Gellir gweld Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2020-2021 yma.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.