Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n falch o rannu â chi y cynnydd sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru ers i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ddod i rym bum mlynedd yn ôl.

Ers hynny, mae'r dull o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru wedi'i newid yn llwyr ac mae cynnydd enfawr wedi'i wneud. Mae’r gwaith o weithredu'r Ddeddf wedi arwain at ragor o hyfforddiant, canllawiau mwy cadarn, newid mewn arferion a chyfeiriad strategol clir ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai yr effeithir arnynt.

Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi'r cynnydd yr ydym yn ei wneud. Cyhoeddir adroddiad 2019-2020 cyn diwedd y tymor seneddol hwn.

Ers gweithredu'r Ddeddf:

  • rydym wedi darparu dros £3.5 miliwn i ariannu 59 o brosiectau cyfalaf i helpu darparwyr VAWDASV arbenigol i ddarparu gwell gwasanaethau
  • rydym wedi cyhoeddi cyfres gynhwysfawr o ganllawiau a phecynnau cymorth ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a chomisiynwyr rhanbarthol, wedi'u llywio gan randdeiliaid a goroeswyr
  • mae dros 180,000 o weithwyr proffesiynol wedi cael eu hyfforddi drwy ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol
  • mae 154,056 o blant a phobl ifanc wedi cael eu haddysgu ynghylch yr hyn yw perthynas iach drwy brosiect Sbectrwm
  • mae 156,326 o gysylltiadau wedi cael cymorth drwy ein llinell gymorth Byw Heb Ofn
  • rydym wedi cynnal adolygiad cyflym o'r hyn sy'n gweithio gyda chyflawnwyr ac wedi cyhoeddi safonau cenedlaethol ar gyfer gweithio gyda chyflawnwyr
  • rydym wedi treialu paneli ymgysylltu â goroeswyr i lywio ymhellach y gwaith o ddatblygu polisi
  • rydym wedi cynnal amrywiaeth o ymgyrchoedd cyfathrebu er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r hyn yw VAWDASV, herio agweddau a chyfeirio at help

(Ebrill 2015 – Ebrill 2020)

Ystyrir bod Llywodraeth Cymru a'n darparwyr arbenigol yng Nghymru ar flaen y gad o ran yr agenda hon. Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio dysgu gwersi gennym ni wrth iddi ddatblygu'r Bil Cam-drin Domestig, ac mae gwledydd eraill y DU wedi troi atom i weld beth yw’r arferion gorau. Fodd bynnag, mae cymaint mwy i'w wneud ac mae taith bell o’n blaenau cyn y gallwn wireddu ein huchelgais o fod y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod a merched. 

Bum mlynedd yn ôl, ni allem fod wedi rhagweld pandemig y Coronafeirws. Mae'r pandemig yn cael effaith sylweddol ar VAWDASV. Symudwyd yn gyflym i sefydlu Grŵp Strategol COVID-19 VAWDASV. Grŵp o randdeiliaid allweddol yw hwn sy'n cyfarfod yn rheolaidd i nodi lle mae angen i ni gyfeirio’n hymdrechion i fynd i'r afael ag effaith y pandemig. 

Rydym hefyd wedi darparu cyllid newydd sylweddol i'r sector VAWDASV – cyllid cyfalaf er mwyn galluogi gwasanaethau i ad-drefnu'r hyn a wnânt mewn ffordd sy'n diogelu rhag COVID-19, megis cyflenwi llochesi a chefnogi dioddefwyr; a chyllid refeniw hefyd er mwyn hyfforddi, meithrin gallu a chefnogi gwydnwch. Mae'r sector wedi cael £4 miliwn yn ychwanegol eleni. 

Rydym wedi bod yn cynnal ein hymgyrch gyfathrebu 'Ddylai neb fod yn ofnus gartre’ drwy gydol y pandemig, gan roi gwybod i bobl bod gwasanaethau'n parhau i weithredu, a'u cyfeirio at ein llinell gymorth a'n gwefan Byw Heb Ofn.

Rydym hefyd wedi cynorthwyo awdurdodau lleol i ddarparu cymorth tai i'r rheini nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus o dan bwerau iechyd y cyhoedd. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i ailystyried sut y gellir cefnogi'r grŵp agored i niwed hwn.

Rydym yn dechrau edrych ymlaen at y pum mlynedd nesaf ac at weithio gyda rhanddeiliaid i ddrafftio Strategaeth Genedlaethol newydd i ddatblygu'r gwaith hwn. Bydd y pum mlynedd nesaf yn cael eu gosod yn erbyn y cyd-destun hwnnw a'r gwersi a ddysgwyd o'r pum mlynedd ddiwethaf. Yr wyf wedi ymrwymo'n llwyr i ddysgu o’r gwersi hynny a'u cymhwyso at ddibenion y Ddeddf i atal VAWDASV ac i ddiogelu a chefnogi goroeswyr ledled Cymru. 

Hoffwn ddiolch i'r sector arbenigol VAWDASV ac i'n Cynghorwyr Cenedlaethol am y gwaith rydych chi’n ei wneud, y gwasanaethau rydych chi’n eu darparu, a'r cymorth a'r gefnogaeth rydych chi’n eu rhoi i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.