Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn hysbysu Aelodau’r Cynulliad bod y ddogfen Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Canllawiau i Lywodraethwyr, wedi’i chyhoeddi heddiw fel rhan o becyn o fesurau i gefnogi’r broses o weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Cynhyrchwyd y Canllawiau hyn i hysbysu llywodraethwyr ysgol am y materion sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd yn codi ymwybyddiaeth o’r angen i roi polisi hyddysg a phriodol ar waith a fydd yn galluogi staff i adnabod arwyddion camdriniaeth o’r fath a gwybod sut i gael cymorth i blant a phobl ifanc, neu yn wir gymorth iddynt hwy eu hunain neu’u cydweithwyr a allai fod yn dioddef y mathau hyn o gamdriniaeth.