Sarah Murphy AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau byrddau iechyd i fyrhau amseroedd aros ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol plant yn 2024-25 ac yn gosod fy mlaenoriaethau diwygiedig ar gyfer y Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth yn 2025-26.
Mae'r 12 mis diwethaf wedi gweld gweithgarwch a chynnydd parhaus, gan gynnwys:
- Cwblhau cam olaf gwerthusiad y Cod Ymarfer Awtistiaeth
- Ymgynghoriad cychwynnol ar y Cod Ymarfer Niwrowahaniaeth
- Digwyddiad dylunio cyflym i gefnogi'r broses o drawsnewid gwasanaethau
- Cyflwyno cynllun gwerth £3 miliwn i fyrhau amseroedd aros ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol plant.
Mae'r holl fyrddau iechyd wedi gwneud cynnydd i fyrhau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol plant ac, o ganlyniad i drawsnewid gwasanaethau a buddsoddiad ychwanegol o £3 miliwn, rydym wedi dileu cyfnodau aros pedair blynedd ledled Cymru. Cynhaliwyd 2,166 o asesiadau ychwanegol rhwng Ionawr a Mawrth 2025.
Er fy mod yn cydnabod y cynnydd a wnaed, rwy'n ymwybodol o hyd o'r heriau parhaus sy'n wynebu teuluoedd â phlant sy'n aros yn rhy hir am asesiadau. Mae byrhau amseroedd aros yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol.
Rwy'n ailgyfeirio'r Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth yn 2025-26 i gynnal a chyflymu'r cynnydd hwn. Yn fy Natganiad Ysgrifenedig am y rhaglen ym mis Chwefror, cyhoeddais gyllid o £13.7 miliwn dros ddwy flynedd hyd at fis Mawrth 2027 i barhau â'r gwelliannau. Yn 2025-26, bydd £5.6 miliwn o'r cyllid hwn yn canolbwyntio ar fyrhau amseroedd aros am asesiadau niwroddatblygiadol plant. Rwy'n gosod y targed uchelgeisiol o gael gwared ar bob achos o aros tair blynedd ym mhob rhan o Gymru erbyn mis Mawrth 2026. Ond bydd rhai byrddau iechyd yn gallu mynd yn llawer pellach a chyflymach.
Mae rhai byrddau iechyd eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol i drawsnewid llwybrau asesu ac mae ganddynt amseroedd aros byrrach o ganlyniad. Rwyf am sicrhau bod y byrddau iechyd hyn yn cael eu cefnogi i barhau â'r cynnydd hwn. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y rhai sy'n dangos trawsnewid effeithiol.
Byddwn hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda Gweithrediaeth y GIG i graffu ar gynlluniau cyflawni, gwella ansawdd data, a sicrhau cysondeb a safonau cenedlaethol.
Bydd y Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth yn parhau i fod yn ganolog i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy, integredig. Byddwn yn cryfhau trefniadau rhanbarthol trwy'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Bydd ein Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol yn parhau â'i waith rhagorol o ran codi ymwybyddiaeth a derbyniad ar draws y system, ac i yrru gwelliannau yn y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i ni fwrw ymlaen â'n gwaith i wella gwasanaethau i bobl niwrowahanol ledled Cymru.
