Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn disgrifio’r diweddaraf y mae fy adran wedi’i wneud o ran ystyried camau nesaf y trefniadau ar gyfer rheoli a rhedeg Traffyrdd a Chefnffyrdd yng Nghymru.

Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw gweithredu, cynnal a chadw a gwella Traffyrdd a Chefnffyrdd Cymru, ased gwerth tua £13.5bn.  O beidio â gofalu amdanynt yn effeithiol ac effeithlon o ddydd i ddydd, gallai’r gwaith cynnal a chadw ddaw o ganlyniad i hynny arwain at oedi a tharfu mawr ar fywydau’r cyhoedd a busnesau.  Felly, yn ogystal â rhoi gwerth ein harian i ni, rhaid i’r model darparu gwasanaethau priffyrdd fod yn ddigon ymatebol a hyblyg i allu prysuro neu leihau gwaith yn ôl gofyn blaenoriaethau cyfnewidiol.  

Mae’r rhwydwaith yn cael ei redeg, ei gynnal a’i gadw a’i wella ar ran Gweinidogion Cymru gan ddwy asiantaeth gyhoeddus.  Cyflogir staff Asiantaeth Cefnffyrdd y De gan Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot a staff Asiantaeth Cefnffyrdd y Gogledd a’r Canolbarth gan Gyngor Gwynedd.

Mae’r model diweddaraf yn ffrwyth cyfnod hir o adolygu a gwella parhaus a arweiniodd at leihau nifer yr asiantwyr sector cyhoeddus o 8 i 3 yn 2005 ac o 3 i 2 yn 2012.

Yn ôl adolygiad diweddar o’r trefniadau presennol, barnwyd y byddai’n syniad da ystyried newidiadau pellach i’r trefniadau rheoli a darparu er mwyn gallu darparu’r gwasanaeth yn well fyth a chael mwy am ein harian.

Mae’r gwasgfeydd parhaus ar y gyllideb a’r angen i godi safonau’r gwasanaeth i sicrhau bod y cyhoedd a busnesau sy’n defnyddio’r rhwydwaith ffyrdd yn wynebu cyn lleied o oedi â phosibl yn golygu bod newidiadau pellach yn angenrheidiol.  Rwyf felly wedi penderfynu bod angen dod â threfniadau rheoli’r rhwydwaith ffyrdd yn nes at Lywodraeth Cymru.

Rwyf wrthi’n ystyried nifer o opsiynau ar gyfer gwneud hyn yn gyflym.

Byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ar y mater ar ôl dadansoddi’r sefyllfa’n fanylach yn yr hydref.  Fy mwriad yw cyflwyno newidiadau yn 2015.