Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd ynghylch yr Adolygiad Annibynnol o drefniadau atebolrwydd a llywodraethiant Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, ac ar wahân ar benodiad Prif Weithredwr Dros Dro ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre fel mater ar wahân.

Ym mis Ebrill 2025, comisiynodd y cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar a Phrif Weithredwr GIG Cymru adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethiant ac atebolrwydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae'r Bartneriaeth yn un o sefydliadau'r GIG, sy'n cael ei chynnal gan Felindre.

Mae'r trefniadau hyn wedi bod ar waith ers 14 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae GIG Cymru wedi bod drwy newidiadau sylweddol, gan gynnwys y pandemig, ac mae'r Bartneriaeth wedi tyfu'n sylweddol ers ei chreu yn 2011.

Cyfrannodd Felindre, y Bartneriaeth Cydwasanaethau, a rhanddeiliaid eraill y GIG at yr adolygiad. Rhannwyd yr argymhellion gyda Chadeiryddion Felindre a'r Pwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau, sydd wedi rhannu eu hadborth ar y cyd. Bydd yr argymhellion a'r ymateb terfynol yn cael eu cyhoeddi i sicrhau tryloywder, a bydd camau gweithredu yn dilyn, drwy raglen gydweithredol rhwng y ddau sefydliad a Llywodraeth Cymru i gryfhau trefniadau llywodraethiant ac atebolrwydd.

Hoffwn fynd i'r afael â'r honiadau sydd wedi'u gwneud ynghylch gweithgarwch troseddol o fewn y Bartneriaeth Cydwasanaethau. Rwyf am ddweud yn gwbl glir nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweld nac wedi derbyn unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod trosedd wedi digwydd.

Penodi Prif Weithredwr Dros Dro ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Ar 18 Tachwedd, hysbyswyd Llywodraeth Cymru fod swydd y cyn Brif Weithredwr, David Donegan, wedi'i dwyn i ben. Mae Carl James wedi'i benodi'n Brif Weithredwr Dros Dro. Mae Carl wedi ysgwyddo'r rôl hon dros dro yn y gorffennol, a bydd ei benodiad yn darparu sefydlogrwydd i'r sefydliad yn y cyfnod sydd ohoni.

Mae Prif Weithredwyr y GIG yn gyflogedig gan eu priod sefydliadau. Cyfrifoldeb eu Byrddau a'u sefydliadau yw unrhyw faterion sy'n ymwneud â'u cyflogaeth.

Nid oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn y penderfyniad i ddwyn swydd y cyn Brif Weithredwr i ben. Roedd y penderfyniad hwn, a wnaed gan Fwrdd Felindre, yn gwbl annibynnol ar yr Adolygiad Annibynnol o drefniadau llywodraethiant ac atebolrwydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, ac nid oedd wedi cael ei ddylanwadu gan hynny mewn unrhyw ffordd.

Fel rhan o'm cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Cadeirydd, byddaf yn parhau i geisio sicrwydd ar ddiwylliant, arweinyddiaeth a rheolaeth y sefydliad i wneud yn siŵr bod ganddo'r gefnogaeth sydd ei hangen yn ystod y cyfnod pontio hwn.