Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Mae Llywodraeth y DU yn rhoi rhaglen eang a sylweddol ar waith er mwyn diwygio’r gyfundrefn les. Fel rhan o’r rhaglen hon, bwriedir rhoi terfyn ar system Budd-dal y Dreth Gyngor ar 1 Ebrill 2013 a throsglwyddo’r cyllid i Gymru er mwyn sefydlu trefn newydd i roi cymorth tuag at filiau’r dreth gyngor. Roedd trosglwyddo’r cyllid yn cynnwys gostyngiad o 10 y cant a oedd wedi’i seilio ar amcangyfrif Llywodraeth y DU o wariant ar gyfer cyllideb 2013-14.
Ar 19 Rhagfyr 2012, pasiodd y Cynulliad reoliadau a fyddai’n rhoi trefniadau newydd ar waith i gynorthwyo’r rhai a fydd yn talu’r dreth gyngor yn 2013-14. Roedd y Rheoliadau (Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012) yn nodi mai 90 y cant fyddai lefel uchaf y cymorth y gallai hawlwyr cymwys ei gael. Roedd hyn yn adlewyrchu’r diffyg yn y cyllid a drosglwyddir gan Lywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau pryderu fwyfwy am effaith ymarferol y gostyngiad yn y cymorth i hawlwyr. Mae hyn yn arbennig o wir wrth i effaith diwygiadau lles eraill Llywodraeth y DU ddod yn gliriach, er enghraifft, wrth i bobl gael gwybod am effaith uniongyrchol y ‘dreth ystafelloedd gwely’. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf i osod terfyn o 1 y cant ar y cynnydd mewn budd-daliadau wedi gwaethygu’r sefyllfa i rai o’n pobl fwyaf agored i niwed. Ar wahân i’r gostyngiadau eraill sy’n deillio o’r rhaglen i ddiwygio’r gyfundrefn les, bydd hyn yn golygu gostyngiad incwm pellach, mewn termau real, i’r grwpiau hyn o bobl.
Ar sail hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cynyddu lefel uchaf y cymorth o’i lefel bresennol o 90 y cant i 100 y cant. Mae hyn yn golygu y bydd hawlwyr yn derbyn yr holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo ar gyfer biliau’r dreth gyngor. Yn wahanol i Reoliadau 2012, ni fydd raid i’r holl hawlwyr sy’n derbyn cymorth dalu cyfran o’u biliau. Bydd y Llywodraeth yn darparu £22 miliwn yn ychwanegol i awdurdodau lleol, er mwyn iddynt weithredu’r newid. Llwyddwyd i ddod o hyd i’r cyllid hwn gan fod y Llywodraeth wedi rheoli ei harian yn ofalus ac wedi gwneud defnydd doeth o’i chronfeydd wrth gefn a’i chyllidebau adrannol.
Rhaid diwygio’r rheoliadau presennol er mwyn cyflwyno’r newid hwn. Bydd y Llywodraeth hefyd yn achub ar y cyfle i godi rhai trothwyon ariannol yn y rheoliadau presennol a gwneud ychydig o fân addasiadau eraill, a hynny’n rhannol mewn ymateb i gymorth defnyddiol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wrth iddo graffu arnynt cyn y Nadolig.
Rhaid i awdurdodau lleol gwrdd â’r amserlen ar sawl achlysur yn y cyfnod cyn cyhoeddi biliau’r dreth gyngor, gan gynnwys yr angen i fabwysiadu cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor erbyn 31 Ionawr. Mae’n hanfodol, felly, fod y diwygiadau yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl. Os nad oes modd llunio’r rheoliadau diwygiedig mewn pryd, gallai awdurdodau orfod wynebu costau sylweddol iawn ar gyfer ailgyflwyno biliau’r dreth gyngor.
Mae’r Llywodraeth wedi gosod rheoliadau diwygio heddiw a bydd yn ceisio’u trafod yn y Cynulliad ddechrau’r wythnos nesaf, gyda chefnogaeth y Llywydd a’r Pwyllgor Busnes. Yn sgil yr amseriad, bydd hyn yn golygu atal y Rheolau Sefydlog. Ni fydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar y Cymal Machlud a ychwanegwyd at y Rheoliadau ym mis Rhagfyr a bydd y Rheoliadau diwygiedig mewn grym yn ystod 2013-14 yn unig.
Bydd y newidiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i’r Rheoliadau yn gwella cryn dipyn ar sefyllfa ariannol yr aelwydydd agored i niwed hynny a fyddai wedi wynebu biliau uwch ar gyfer y dreth gyngor, yn ogystal â’r rheini a fyddai wedi gorfod cyfrannu at filiau’r dreth gyngor am y tro cyntaf.