Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau a John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Pan fabwysiadodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Gynllun Gofodol Cymru yn 2004, roedd yn torri tir newydd o ran cefnogi datblygu cynaliadwy. Gwelwyd llwyddiannau pwysig yn ystod yr wyth mlynedd a aeth heibio, nid yn lleiaf o ran newid y ffordd rydym yn gweithio ar draws sectorau ac ar draws ffiniau, yn ogystal â datblygiadau pendant fel y prosiect Rhanbarth Amgylchedd Rhwydweithiol, y cyntaf i sefydlu gwasanaethau ar sail ecosystemau yn ninas-ranbarth Caerdydd.

Mae grwpiau’r Gweinidogion a’r swyddogion wedi creu sylfaen gref i’r gwasanaethau cyhoeddus weithio gyda’i gilydd ym mhob un o chwe rhanbarth y Cynllun Gofodol. Un o ddibenion allweddol Cynllun Gofodol Cymru oedd integreiddio ar draws portffolios Gweinidogion a chydnabod y dylai polisïau a’r ffordd y cânt eu cyflwyno adlewyrchu’r gwahaniaethau sy’n bodoli yng Nghymru - nid yw’r un dull yn addas i bawb. Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol yn y maes hwn a byddwn yn parhau i weithio i wella pethau ymhellach fyth, gan sefydlu egwyddorion ac ethos cynllunio gofodol yn ein polisïau. Caiff hyn ei adlewyrchu mewn sawl maes sy’n datblygu, fel y Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru, Dinas-ranbarthau, Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol a’r rhwydweithiau datblygu arweiniad rhanbarthol sy’n datblygu ar sail darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn modd cydweithredol.

Cynllun Gofodol Cymru 2008 yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru o hyd ar gyfer pobl, lleoedd a’r dyfodol, ac wrth i ni fynd â’r Rhaglen Lywodraethu yn ei blaen, byddwn yn egluro sut y bwriadwn ddatblygu’r weledigaeth hon.

Er mwyn adlewyrchu safle’r Cynllun o ran datblygu cynaliadwy, fodd bynnag, rydym wedi cytuno y bydd cyfrifoldeb am y Cynllun yn cael ei drosglwyddo o’r portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau i bortffolio’r Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, a hynny o 1 Ebrill 2012.  Hoffem ddiolch i bawb drwy’r wlad sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r Cynllun Gofodol trwy grwpiau’r Gweinidogion a’r swyddogion. Serch hynny, rydym wedi penderfynu diddymu’r strwythurau rhanbarthol sy’n bodoli ar gyfer Cynllun Gofodol Cymru, o ran Gweinidogion a swyddogion. Golyga hyn y bydd y tirlun partneriaethau rhanbarthol yn dod yn symlach o lawer.  

Yn olaf, cyn hir byddwn yn cyflwyno ein cynigion ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy a fydd yn ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy yng ngwaith holl gyrff cyhoeddus Cymru.