Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar amryw gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd yn dilyn yr adroddiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar y Trefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Er nad yw’r adroddiad yn ddarlleniad hawdd, mae hefyd yn rhoi sicrwydd i’r perwyl y llwyddodd y trefniadau trosolwg, arolygu a goruchwylio cenedlaethol i ganfod ac ymateb i’r sefyllfa a ddaeth i’r amlwg ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.  Ers cychwyn yr adolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, mae fy swyddogion wedi cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw ac wedi bod yn gweithio i gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd ag amryw o faterion sy’n ymwneud â llywodraethu, perfformiad, ac ansawdd a diogelwch. Felly, roedd llawer o’r agweddau ar ein cefnogaeth i ymdrin ag argymhellion yr Adolygiad naill ai eisoes yn eu lle neu yn yr arfaeth cyn i’r Adolygiad gael ei gyhoeddi.

O ran manylion y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r Bwrdd Iechyd, rwyf wedi cyhoeddi eisoes y bydd David Jenkins, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, yn cynorthwyo’r Bwrdd Iechyd hyd nes y bydd Cadeirydd newydd yn ei swydd. Mae’r trefniant hwn bellach wedi cychwyn ac rydym eisoes wedi hysbysebu am Gadeirydd newydd. Bydd y broses hon wedi dod i’w therfyn o fewn y ddau fis nesaf. Cyhoeddir yr hysbyseb am Ddirprwy Gadeirydd cyn bo hir.

Hefyd, mae David Sissling, Prif Weithredwr y GIG, wedi sicrhau bod trefniadau ar waith i gefnogi’r Tîm Gweithredol a’r sefydliad ehangach er mwyn gwella gallu’r tîm i ymateb i argymhellion yr Adolygiad. Darperir y gefnogaeth hon gan;

  • Paul Roberts, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg;
  • Richard Bowen, Cyfarwyddwr Cynllunio Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan;
  • Bruce Ferguson, sydd newydd ymddeol fel Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Bydd pob un o’r uchod yn neilltuo amser digonol i gynorthwyo’r Bwrdd i roi argymhellion yr Adolygiad ar waith. Bydd Paul Roberts yn treulio 3 neu 4 diwrnod yr wythnos ar y safle. Byddaf i a David Sissling yn cefnogi’r unigolion wrth iddynt wneud y gwaith hwn. Bydd ganddynt ein hawdurdod i gymryd y camau gofynnol i fynd â’r Bwrdd drwy’r cyfnod hwn o newid. Bydd y tîm cefnogi hwn yn ei le tan ddechrau’r hydref, o leiaf, ond byddwn yn estyn y cyfnod hwn os oes angen.

Ar ben hyn, mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru barhau i gefnogi’r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod systemau rheoli heintiau trylwyr ar waith drwy fonitro cynnydd bob mis. Ar hyn o bryd mae’r tîm Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ailadrodd y dadansoddiadau epidemiolegol a gynhaliwyd yn Ysbyty Glan Clwyd mewn dau o safleoedd eraill y Bwrdd Iechyd. Dylai’r gwaith hwn fod wedi’i gwblhau o fewn y misoedd nesaf. Mae tîm Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn rhoi cyngor a chefnogaeth i’r Arweinydd Nyrsio Gweithredol ar faterion sy’n ymwneud â rheoli heintiau.

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi gofyn am wasanaeth yr Athro Brian Duerden, cyn Arolygydd Microbioleg yn yr Adran Iechyd. Mae’r Athro Duerden yn arbenigwr mewn atal heintiau. Bydd yn adolygu’r gweithdrefnau perthnasol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant. Cylch gorchwyl ei waith yw:

  1. Rhoi cyngor amserol ar sail tystiolaeth i’r Bwrdd Iechyd ynghylch pa mor briodol a thrylwyr y mae ei drefniadau llywodraethu a rheoli ar gyfer heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, yn arbennig C. Difficile.
  2. Nodi’r holl gyfleoedd i gryfhau’r trefniadau hyn er mwyn lleihau achosion o heintiau ac er mwyn i’r bwrdd allu nodi a chymryd camau priodol cyn gynted â phosibl os bydd angen.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn disgwyl cael adroddiad cychwynnol gan yr Athro Duerden erbyn diwedd mis Gorffennaf. Er mwyn cryfhau’r ymateb yn y maes hwn ymhellach, mae’r Bwrdd Iechyd eisoes wedi penodi Ymgynghorydd Nyrsio allanol gydag arbenigedd mewn rheoli heintiau.

Ers rhai misoedd, cynghorwyd y Bwrdd Iechyd i benodi Prif Swyddog Gweithredu, Uwch Arweinydd Clinigol ac arbenigwyr gweddnewid ac rwyf yn cael ar ddeall bod y broses hon yn mynd rhagddi’n dda. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn gweithio gydag ymgynghoriaeth allanol i sicrhau cymorth ar faterion cynllunio ac ariannol.

Mae fy swyddogion hefyd yn rhoi cymorth dyddiol i aelodau’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol yn ôl y gofyn. Mae Prif Swyddog Meddygol a Phrif Swyddog Nyrsio Cymru yn gweithio’n agos eisoes gyda’r Cyfarwyddwr Meddygol dros dro a’r Cyfarwyddwr Nyrsio a benodwyd yn ddiweddar, yn ogystal â Cymdeithas Feddygol Prydain a’r Coleg Nyrsio Brenhinol, i gryfhau’r gwaith ymgysylltu clinigol. Mae hwn yn faes pwysig – mae angen i ni sicrhau bod holl staff y Bwrdd Iechyd yn teimlo’n rhan o’r prosesau gwella a’u bod yn chwarae’u rhan ynddynt.

Yn amlwg, rhaid i’r Bwrdd ddal ati i ganolbwyntio ar faterion ansawdd a diogelwch. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, cyflwynwyd trefniadau gwyliadwriaeth cadarnach yn y maes hwn ac rwy’n cael adroddiadau rheolaidd ar ystod o ddangosyddion allweddol.

Bellach mae angen i’r Bwrdd Iechyd ei hun fanteisio ar y gefnogaeth hon a chymryd camau brys a pharhaus i ddatrys y materion sy’n ymwneud â:

  • Trefniadau llywodraethu, gwybodaeth a chefnogaeth y Bwrdd
  • Llywodraethu, arweinyddiaeth ac ymgysylltiad clinigol
  • Systemau cynllunio, gan gynnwys ar gyfer prosesau newid gwasanaethau
  • Trefniadau rheoli perfformiad ac ansawdd a diogelwch

Cynhelir adolygiad ffurfiol o gynnydd y Bwrdd yn y meysydd hyn i gyd ddiwedd mis Medi a byddaf yn rhoi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad bryd hynny.

Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged eto i broffesiynoldeb ac ymroddiad staff y GIG yn y Bwrdd Iechyd. Mae hwn yn gyfnod anodd, ond rwy’n gwybod y byddant yn dal ati i wynebu’r her a darparu gofal o safon uchel i bobl yn y Gogledd.