Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae datblygu addysgu ac arweinyddiaeth o safon uchel drwy warantu cyfleoedd dysgu proffesiynol a chymorth i bob aelod staff drwy gydol eu gyrfa yn ganolog i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru, ac mae’n un o’r pum amcan galluogi yn ‘Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb.’ Fel y nodwyd yn yr Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, a lansiodd yn 2022, rwyf am sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol cyson, o safon uchel ar gael i bob ymarferydd ledled Cymru drwy gydol eu gyrfa. 

Er mwyn cyflawni’r ymrwymiad hwn, rwy’n cyhoeddi trefniadau newydd i sicrhau ansawdd dysgu proffesiynol yng Nghymru. I arwain y gwaith hwn, rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi bod yr Athro Ken Jones wedi’i benodi’n gadeirydd arbenigol annibynnol ar Banel Cymeradwyo Cenedlaethol newydd. Bydd aelodau’r Panel Cymeradwyo Cenedlaethol yn cynnwys ystod o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg, Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, consortia rhanbarthol a phartneriaethau, sefydliadau addysg uwch, yn ogystal ag arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion. Caiff y broses o recriwtio cynrychiolwyr ymarferwyr ei lansio yn fuan, a chynhelir cyfarfod cyntaf y panel llawn y tymor hwn.

Bydd rôl allweddol i’r Panel Cymeradwyo Cenedlaethol i sicrhau ansawdd cyfleoedd dysgu proffesiynol i bob ymarferydd addysg yng Nghymru. Bydd aelodau’r panel yn gyfrifol am bennu meini prawf cymeradwyo a sicrhau ansawdd cyfleoedd dysgu proffesiynol a gyflwynir i’w cymeradwyo yn erbyn y meini prawf. Bydd y broses hon yn gofalu mai dim ond dysgu proffesiynol o’r safon uchaf a gaiff ei gymeradwyo. Bydd y dull newydd hwn o sicrhau ansawdd yn gydnaws â’r Dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol, yn ogystal â threfniadau dan arweiniad Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru i gymeradwyo cyfleoedd dysgu proffesiynol i arweinwyr ysgolion yng Nghymru.

I sicrhau bod cyfleoedd datblygu ar gael yn hwylus i ymarferwyr addysgol, rydym yn lansio ardal newydd ar Hwb sy’n ymwneud â dysgu proffesiynol. Bydd hyn yn darparu un pwynt mynediad at adnoddau dysgu proffesiynol o safon uchel. Mae gwaith a wnaed gyda Grŵp Cyfeirio Ymarferwyr wedi sicrhau bod y dull gweithredu hwn wedi cael ei ddatblygu gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr. Gan ddiwallu anghenion y gweithlu ysgol cyfan, bydd y cyfleoedd dysgu yn canolbwyntio ar flaenoriaethau addysg cenedlaethol, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru, diwygio ADY, tegwch a’r Gymraeg. Bydd yr ardal yn lansio ar fformat beta i ddechrau, a byddwn yn croesawu adborth er mwyn ein helpu i barhau i’w datblygu.

Rydym hefyd wedi recriwtio secondai ag arbenigedd dysgu proffesiynol i gefnogi ymhellach y broses o wireddu’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol. Bydd y secondai a’r grŵp ymarferwyr yn cydweithio â’r panel cymeradwyo newydd i wneud yn siŵr mai dim ond adnoddau dysgu proffesiynol sydd wedi bodloni’r gofynion uchaf o ran sicrwydd ansawdd sydd ar gael ar Hwb. Rydym yn cymryd camau breision ar ein taith i wireddu amcanion yr Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol i ymarferwyr Cymru, i sicrhau safonau a dyheadau uchel i bob dysgwr ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at wneud cyhoeddiadau pellach ar ein cynnydd.