Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:


Rydym yn ddiolchgar i arweinwyr Cyngor Pen-y-bont, a byrddau iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf, am eu hymrwymiad a'u parodrwydd i gydweithio. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar y cynnig yn cael eu harchwilio mewn modd priodol ac agored.  

Gwnaed gwaith sylweddol fel rhan o'r rhaglen ar gyfer y De i benderfynu ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau brys a gwasanaethau ysbyty penodol yn effeithiol ar draws byrddau iechyd yn y De. Ni fyddwn yn ailagor y penderfyniadau hynny yn sgil unrhyw newid a allai ddigwydd  i ffiniau’r  byrddau iechyd o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn.

Yn sgil y trafodaethau adeiladol hyn, ein bwriad yw cynnal ymgynghoriad ffurfiol dros gyfnod o 12 wythnos yn ystod yr hydref ar yr egwyddor o newid y ffiniau. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys ystyried rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 er mwyn sicrhau bod byrddau partneriaeth rhanbarthol a byrddau diogelu yn adlewyrchu'r newidiadau arfaethedig i ffiniau'r bwrdd iechyd.    

Dros yr haf rydym wedi bod wrthi'n trafod y cynnig gydag arweinwyr Cyngor Pen-y-bont a byrddau iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf, ac rydym yn cydnabod y gwaith gwerthfawr sydd wedi ei gyflawni gan staff ymroddedig y gwasanaethau cyhoeddus yn y byrddau iechyd a'r awdurdod lleol. Mae'r byrddau iechyd a Chyngor Pen-y-bont wedi dweud y byddai'n fuddiol darparu sicrwydd i'r cyhoedd a'r staff ynghylch y bwriad i newid y ffiniau, ac maent wedi ymrwymo i ymgysylltu'n effeithiol â'r cyhoedd, yr undebau llafur a'r staff yn ystod y cyfnod ymgynghori ac wedi hynny.

Nod y cynnig hwn yw sicrhau bod y trefniadau ar gyfer llywodraethu a gwneud penderfyniadau yn gliriach at ddibenion gweithio mewn partneriaeth.

Byddai newid ffiniau'r bwrdd iechyd fel hyn yn sicrhau bod y swyddogaethau dan sylw yn rhan o'r trefniadau partneriaeth strategol sy'n ymdrin â swyddogaethau eraill Cyngor Pen-y-bont, gan gynnwys chwarae ei ran ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Er mwyn sicrhau bod trefniadau'n glir ac yn gyson - a'u bod yn gydnaws â'r rhaglen  ehangach ar gyfer diwygio llywodraeth leol  - mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylai penderfyniadau am y ddarpariaeth iechyd  yn ardal Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr gael eu gwneud gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn hytrach na Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.  

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth o fewn dau batrwm strategol sy'n gorgyffwrdd. Mae'r rhain wedi eu pennu'n rhannol gan ffiniau byrddau iechyd ac yn rhannol gan batrymau gweithgarwch economaidd neu berthynas hanesyddol. Cydnabyddir bod hon yn sefyllfa heriol i'r awdurdod lleol.

Roedd y Papur Gwyn yn cynnwys cynigion penodol ar gyfer trefniadau partneriaeth i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn sicrhau bod partneriaid yn y sector cyhoeddus yn parhau i elwa ar y manteision sy’n deillio o ffiniau cyffredin rhwng llywodraeth leol a byrddau iechyd.

Ar 18 Gorffennaf 2017, disgrifiodd Lywodraeth Cymru ei chynigion ar gyfer cadernid ac adnewyddiad o fewn llywodraeth leol yng Nghymru, yn sgil cynnal ymgynghoriad ar Bapur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol.