Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel system iechyd a gofal cymdeithasol integredig, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pob unigolyn cael ei roi yn y lleoliad cywir yn ddiogel, er mwyn ei helpu i wella, osgoi datgyflyru a hybu ei les.

Mae ein canllawiau rhyddhau mewn perthynas â COVID-19 wedi’u seilio ar yr egwyddor “gartref yn gyntaf”, y llwybrau Rhyddhau i Adfer yna Asesu a chanolbwyntio ar y cyd ar adsefydlu ac ailalluogi. Bydd hyn yn parhau’n berthnasol pan fyddwn yn adfer o’r pandemig hwn.

Drwy sicrhau proses briodol ar gyfer trosglwyddo unigolion o’r ysbyty i’r cam nesaf o ofal, caiff llif cleifion ei chynnal. Bydd hyn yn golygu y bydd y rhai sydd angen gofal ysbyty acíwt ar fyrder yn gallu cael y gofal hwnnw yn brydlon, tra bydd pobl agored i niwed, gan gynnwys pobl hŷn, ac yn enwedig y rhai bregus, yn cael eu diogelu rhag y risg o ddatgyflyru a Heintiau a Ddelir Wrth Gael Gofal Iechyd yn sgil cyfnod estynedig yn yr ysbyty.

Ar y llaw arall, mae’n hanfodol ein bod yn osgoi cyflwyno haint i gartrefi gofal neu leoliadau eraill, neu ddod â haint i gysylltiad â phobl yn ddiangen. Y cydbwysedd hwn yw’r hyn rwy’n ei olygu wrth sôn am broses briodol ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty.

Er mwyn taro cydbwysedd rhwng y rheidrwydd i roi pobl yn y lleoliad cywir i gael y gofal gorau, a’r angen i ddiogelu cartrefi gofal a lleoliadau eraill rhag trosglwyddiad damweiniol, mae gennym ofynion mewn grym ynghylch rhyddhau cleifion a hefyd ynghylch pryd y caiff cartref gofal neu leoliad arall, lle mae brigiad o achosion wedi bod, gael ei ddynodi’n rhydd o COVID-19.

Wrth inni gasglu rhagor o ddata am COVID-19 a dod i’w ddeall yn well, mae’n briodol y dylem ailystyried ein dulliau gweithredu mewn perthynas â’r cwestiynau allweddol hyn. Rydym wedi cael cyngor gan y Grŵp Cyngor Technegol ynglŷn â’r ddau bwnc hyn, ac rwy’n cyhoeddi’r cyngor hwnnw heddiw. Dyma sail y safbwyntiau a gyhoeddir heddiw ar brofion wrth ryddhau cleifion a hyd brigiadau o achosion.

O ran cleifion sydd wedi cael COVID-19, y pwynt allweddol mewn perthynas â’u rhyddhau yw heintusrwydd. Gwyddom bellach mai’r dangosyddion gorau o ddiwedd heintusrwydd yw treigl amser a gwellhad o ran symptomau, gyda phrofion yn chwarae rôl gadarnhau. Mae’n hanfodol yn awr yn fwy nag erioed nad yw pobl nad ydynt bellach yn heintus gyda COVID-19 yn cael eu cadw’n amhriodol mewn lleoliadau gofal iechyd. Gallwn nawr ddweud gyda hyder nad yw person sy’n cael canlyniad prawf gyda rhif Trothwy Cylch (Ct) o 35 neu uwch yn heintus bellach ac felly gall fynd adref neu i leoliad gofal cymdeithasol heb risg o heintio eraill gyda COVID-19, a heb angen ynysu am gyfnod o amser.

O ganlyniad, rwy’n newid y canllawiau ar ryddhau cleifion o ysbytai, a hynny ar unwaith, fel y gall pobl sy’n cael prawf negatif am COVID-19, neu brawf gyda rhif Ct o 35 neu uwch, gael eu rhyddhau i fynd adref neu i leoliad gofal cymdeithasol. Rhaid i’r meini prawf eraill fod wedi’u bodloni hefyd er mwyn gwneud hyn, sef bod 14 diwrnod wedi mynd heibio ers y prawf positif diwethaf neu ddechrau’r symptomau, nad yw’r person wedi bod â thymheredd uchel ers tridiau, a bod gwelliant wedi bod mewn symptomau eraill. Y canllawiau o hyd yw y dylai cleifion sy’n heintus, ond nad oes angen gofal acíwt arnynt bellach, symud i gyfleuster cam-i-lawr ar gyfer y rhai sy’n heintus â COVID-19. Dyma’r drefn ar gyfer cleifion sydd wedi cael COVID-19. O ran cleifion pan nad oes tystiolaeth o COVID-19, bydd y gofynion presennol ar gyfer prawf negatif cyn eu rhyddhau a chyfnod ynysu yn parhau mewn grym, oherwydd y risg o ddal haint ar ôl cymryd y prawf.

Yn yr un modd, ar gyfer pennu brigiadau o achosion, mae ein dealltwriaeth gynyddol o COVID-19 yn ein galluogi i ddeall hyd cyfnodau magu a heintusrwydd yn well. Mae hyn yn fater pwysig iawn o ystyried effaith cau cartref gofal yn sgil brigiad o achosion ar ei allu i ganiatáu derbyniadau newydd ac, yn wir, i ganiatáu ymweliadau â’r rhai sydd eisoes yn preswylio yno. Ar sail ein cyngor diweddaraf, gallwn ddweud gyda chryn hyder fod unigolion – cyhyd â bod prosesau Atal a Rheoli Heintiau wedi’u dilyn – yn annhebygol iawn o fod yn heintus 20 diwrnod ar ôl i’r achos diwethaf mewn lleoliad caeedig gael ei nodi. Felly, rwy’n bwriadu caniatáu i dimau amlddisgyblaethol, ar ôl ystyried amgylchiadau penodol cartrefi unigol, ddatgan bod brigiad drosodd ar ôl 20 diwrnod ers y prawf positif diwethaf neu ymddangosiad symptomau. Bydd y newid hwn yn y gofyniad presennol, sef 28 diwrnod, yn amodol ar rownd o brofion negatif neu bositif isel (rhif Ct ≥35) i gadarnhau’r sefyllfa ar ôl 14 diwrnod.

Y Grŵp Cyngor Technegol: datganiad consensws wedi’i ddiweddaru ar y meini prawf profi a argymhellir ar gyfer rhyddhau cleifion asymptomatig i gartrefi gofal.