Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan y Cyd-drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd, mae Llywodraeth Cymru'n cyfarfod â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol pob bwrdd iechyd a phob ymddiriedolaeth y GIG mewn perthynas ag ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Mae ystod eang o wybodaeth yn cael ei hystyried er mwyn nodi unrhyw broblemau a helpu i lywio'r asesiad.

Cytunwyd y câi statws uwchgyfeirio pob sefydliad GIG ei gyhoeddi.

Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith:

  • Trefniadau arferol
  • Monitro uwch
  • Ymyrraeth wedi'i thargedu
  • Mesurau arbennig.

Cynhaliwyd y cyfarfod diweddaraf yn Ionawr 2019 ac roedd y grŵp teirochrog o'r farn bod cynnydd wedi'i wneud ers y cyfarfod diwethaf ym mis Gorffennaf 2018 yn y sefydliadau hynny sydd mewn ymyrraeth wedi'i thargedu;

  • Mae perfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi parhau i fod ymhlith y goreuon yng Nghymru mewn meysydd perfformiad allweddol ac roedd y sefydliad yn hyderus y câi ei dargedau diwedd blwyddyn eu cyflawni. Roedd y bwrdd iechyd ar y trywydd iawn o ran cyrraedd ei gyfanswm rheolaeth ariannol ar ddiwedd Mawrth. Mae'r sefydliad wedi dangos cynnydd sylweddol yn ei waith cynllunio, ac roedd yn hyderus y byddai'n gallu cymeradwyo Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Yn wyneb y gwelliannau mewn gwasanaeth a pherfformiad ariannol cytunwyd y dylid is-gyfeirio'r sefydliad i ‘monitro uwch’. Câi'r sefyllfa ei hadolygu eto ar ôl asesu'r IMTP.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi dangos cynnydd mewn nifer o'r meysydd y cafodd ei osod mewn ymyrraeth wedi'i thargedu ar eu cyfer, er bod angen gwelliant pellach cyn y gellid is-gyfeirio'r sefydliad. Yn arbennig, rhaid i'r bwrdd iechyd gyflawni yn erbyn ei ymrwymiadau ariannol a'i ymrwymiadau gwasanaeth ar gyfer 2018/19. I ddechrau bydd y bwrdd iechyd yn paratoi cynllun un flwyddyn ar gyfer 2019/20 ac mae'n gweithio i bennu manylion terfynol ei gynllun tair blynedd yn yr haf 2019.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd wedi gwneud cynnydd mewn meysydd allweddol tuag at gyflawni ei ymrwymiadau gofal wedi'i gynllunio. Rhaid i'r Bwrdd iechyd ddangos ei fod yn cyflawni ei gyfanswm rheolaeth ariannol ar ddiwedd mis Mawrth.  Bydd y sefydliad yn cyflwyno cynllun un flwyddyn ar gyfer 2019/20 a bydd yn parhau i weithio tuag at gytuno ar gynllun tair blynedd.

Gwelwyd cynnydd hefyd mewn sawl maes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae perfformiad y tu all i oriau yn y bwrdd iechyd bellach ar lefel y gellir ei chymharu â sefydliadau eraill ac mae wedi cael ei ddileu fel pryder sy'n destun mesurau arbennig. Cafwyd rhai gwelliannau ym maes iechyd meddwl, er bod gwaith pellach i'w wneud. Cydnabu'r grŵp teirochrog y ffordd yr oedd y sefydliad wedi ymateb i adroddiadau Ockenden a'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS). Mae dulliau llywodraethu ansawdd a diogelwch wedi'u cryfhau ac mae gwelliannau'n dechrau dod i'r amlwg. Mae'r Cadeirydd newydd yn cryfhau effeithiolrwydd llywodraethiant a'r bwrdd. Er gwaethaf gwelliannau mewn rhai meysydd o'i gymharu â'r llynedd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dal i wynebu agenda wella heriol wrth iddo weithio i wella perfformiad a llywodraethiant yng nghyd-destun cynllun tair blynedd cynaliadwy.

Dengys y tabl isod statws uwchgyfeirio blaenorol a phresennol pob sefydliad.

Sefydliad Statws Blaenorol (Gorff 18) Statws Presennol (Ion 19)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Ymyrraeth wedi'i thargedu Ymyrraeth wedi'i thargedu
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Trefniadau arferol Trefniadau arferol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Mesurau Arbennig Mesurau Arbennig
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Ymyrraeth wedi'i thargedu Monitro uwch
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Monitro uwch* Monitro uwch
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Ymyrraeth wedi'i thargedu Ymyrraeth wedi'i thargedu
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Trefniadau arferol Trefniadau arferol
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru Trefniadau arferol Trefniadau arferol
Ymddiriedolaeth GIG Felindre Trefniadau arferol Trefniadau arferol
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Trefniadau arferol Trefniadau arferol

* Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ei uwchgyfeirio i  ‘monitro uwch’ mewn cyfarfod ar ddechrau Ionawr 2019.