Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan y Cyd-drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol pob un o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG mewn perthynas ag ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Mae ystod eang o wybodaeth yn cael ei hystyried er mwyn nodi unrhyw broblemau a helpu i lywio'r asesiad.

Cytunwyd y câi statws uwchgyfeirio pob un o sefydliadau'r GIG ei gyhoeddi.

Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith:

  • Trefniadau arferol
  • Monitro uwch
  • Ymyrraeth wedi'i thargedu
  • Mesurau arbennig.

Cynhaliwyd y cyfarfod diwethaf ym mis Awst 2019 ac roedd y grŵp teirochrog o'r farn bod cynnydd wedi'i wneud ers y cyfarfod diwethaf ym mis Ionawr 2019 yn y sefydliadau hynny sydd mewn lefelau uwchgyfeirio uwch:

  • Mae perfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi parhau i wella mewn meysydd perfformiad allweddol ac mae'r sefydliad wedi gwneud cynnydd yn erbyn ei dargedau diwedd blwyddyn. Yn hollbwysig, roedd y bwrdd iechyd hwnnw wedi cyrraedd ei gyfanswm rheolaeth ariannol ddiwedd mis Mawrth. Mae'r sefydliad wedi dangos cynnydd sylweddol yn ei ddull cynllunio hefyd ac roedd wedi cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig i Lywodraeth Cymru, cynllun a gymeradwywyd. Yn wyneb y gwelliannau i berfformiad gwasanaethau a pherfformiad ariannol, gan nodi bod gwaith monitro wedi troi'n drefniadau cyffredin, cytunwyd y dylai'r sefydliad gael ei isgyfeirio i 'drefniadau arferol'.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi dangos cynnydd yn nifer o'r meysydd a achosodd iddo gael ei osod mewn ymyrraeth wedi'i thargedu, gan gynnwys cyflawni ei ymrwymiad o ran amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth ddiwedd mis Mawrth. Fodd bynnag, rhaid gwella rhagor ar ofal heb ei drefnu a materion ariannol cyn i'r sefydliad gael ei isgyfeirio. Mae'r bwrdd iechyd hwn yn paratoi cynllun blwyddyn ar gyfer 2019/20 ac mae'n dal i weithio tuag at gwblhau ei gynllun tair blynedd yn ystod haf 2019.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gwneud cynnydd mewn meysydd allweddol hefyd, gan gynnwys cyflawni ei ymrwymiadau o ran gofal wedi'i drefnu ddiwedd mis Mawrth 2019, yn ogystal â chyrraedd ei gyfanswm rheolaeth ariannol. Mae'r sefydliad wedi cyflwyno cynllun blwyddyn ar gyfer 2019/20 a bydd yn parhau i weithio tuag at gytuno ar gynllun tair blynedd.

Cyfyngedig fu’r cynnydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y misoedd diwethaf. Er gwaethaf gwelliannau mewn rhai meysydd fel iechyd meddwl a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau o'u cymharu â'r llynedd, mae'r bwrdd iechyd hwn yn dal i wynebu agenda heriol o welliannau. Mae perfformiad presennol y bwrdd mewn gofal wedi'i drefnu a gofal heb ei drefnu, ynghyd â'r sefyllfa ariannol a ragwelir, yn bryder sylweddol ac yn parhau i fod yn feysydd allweddol lle byddaf yn disgwyl gweld gwelliannau sylweddol ynddynt.  Byddaf yn cyhoeddi fframwaith gwella diwygiedig i egluro'r cynnydd a wnaed a'r pryderon ynghylch mesurau arbennig sy'n weddill.

Mewn perthynas â Chwm Taf Morgannwg, nododd y grŵp bod y bwrdd iechyd yn ymateb yn effeithiol ac yn agored i'r adolygiad ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru / Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r cysylltiadau'n gweithio'n dda â'r Panel Trosolwg ar Famolaeth a sefydlwyd yn ddiweddar. Nododd y grŵp effaith y Prif Weithredwr dros dro yn y sefydliad, yn ogystal â nodi bod Cyfarwyddwr Nyrsio newydd wedi dechrau'n ddiweddar ac y bydd Cyfarwyddwr Meddygol newydd yn dechrau yn ei swydd yn fuan, a fyddai'n cryfhau’r Tîm Gweithredol.

Dywedodd y Prif Swyddog Nyrsio bod y bwrdd iechyd yn cydymffurfio â'r Ddeddf Staff Nyrsio ac y gallai hyn gael ei dynnu allan o fonitro uwch. Cytunwyd hefyd bod y camau a godwyd yn adroddiad yr Awdurdod Meinweoedd Dynol wedi symud ymlaen ac y gellid eu tynnu allan o fonitro uwch a’u monitro drwy'r cyfarfodydd ansawdd a chyflenwi rheolaidd. Er gwaetha'r cynnydd hwn, roedd y bwrdd iechyd yn ymwybodol o natur ddifrifol y sefyllfa ac yn cydnabod bod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd.

Mewn perthynas ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, roedd y grŵp yn ganmoliaethus yn dilyn y gwaith sefydlu cychwynnol a chyfeiriodd at eu cynllun blwyddyn a gymeradwywyd.  Cytunodd y grŵp y dylai'r sefydliad gael ei osod mewn 'trefniadau arferol'.

Mae'r tabl isod yn dangos statws uwchgyfeirio blaenorol a phresennol pob sefydliad.

Sefydliad

Statws Blaenorol

(Ionawr 19)

Statws Presennol (Awst 19)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mesurau Arbennig

Mesurau arbennig

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Monitro uwch

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg *

Monitro uwch

Mesurau arbennig ar gyfer mamolaeth, ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

-

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Ymyrraeth wedi'i thargedu

Ymyrraeth wedi'i thargedu

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ymyrraeth wedi'i thargedu

Ymyrraeth wedi'i thargedu

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

* Cafod Bwrdd Iechyd Prifysgol blaenorol Cwm Taf ei uwchgyfeirio i statws 'monitro uwch' mewn cyfarfod ddechrau mis Ionawr 2019. Mewn cyfarfod ym mis Ebrill 2019, cytunwyd ar godi statws uwchgyfeirio Cwm Taf Morgannwg i statws 'mesurau Arbennig' ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Coleg Brenhinol ac i statws 'ymyrraeth wedi'i thargedu' ar gyfer llywodraethu ac ansawdd.

Yn dilyn y broses o newid y ffin ym mis Mawrth 2019, daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.