Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan y Cyd-drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru'n cyfarfod â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol pob un o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) mewn perthynas ag ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol.  Mae amrywiaeth eang o wybodaeth yn cael ei hystyried er mwyn nodi unrhyw faterion a helpu i lywio'r asesiad.

Cytunwyd y byddai statws uwchgyfeirio pob sefydliad GIG yn cael ei gyhoeddi.

Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith:

  • Trefniadau arferol
  • Monitro uwch
  • Ymyrraeth wedi'i thargedu
  • Mesurau arbennig.

Oherwydd y pandemig presennol, cynhaliwyd y cyfarfod diweddaraf yn rhithiol ym Medi 2020 ac fe ganmolodd y grŵp teirochrog y ffordd yr oedd GIG Cymru wedi delio â'r pandemig. Roeddent o'r farn hefyd fod cynnydd wedi'i ddangos, cyn y pandemig ers y cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr 2019 yn y sefydliadau hynny sydd mewn lefelau uwchgyfeirio uwch:

  • Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gwneud cynnydd mewn meysydd perfformiad allweddol gyda'r sefydliad yn gwneud cynnydd yn erbyn ei dargedau diwedd blwyddyn ei hun ac roedd ar y trywydd iawn i gyflawni yn erbyn targed RTT.  Er hynny, roedd pryder o hyd am y sefyllfa ariannol yn y sefydliad, ond cydnabuwyd bod y bwrdd iechyd wedi ymateb yn gadarnhaol i adolygiad KPMG.  Byddai cynlluniau ariannol yn y dyfodol yn dibynnu ar gyflawni'r strategaeth glinigol a oedd wedi'i datblygu. Yn wyneb y gwelliannau mewn gwasanaeth a chan nodi bod monitro wedi cael ei leihau yn ymarferol, cytunwyd y dylid is-gyfeirio'r sefydliad i ‘monitro uwch’.

 

  • Canmolodd y grŵp y ffordd yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi delio â'r pandemig presennol. Roedd hefyd wedi dangos bod ganddo ddealltwriaeth gliriach o'i gyllid a'r camau gweithredu a oedd yn angenrheidiol.  Cafwyd dull gweithredu cliriach o ran perfformiad a gwella mewn rhai o'r mesurau sy'n cael eu hystyried, gan gynnwys canser a heintiau; Er hynny, mae pryderon o hyd bod angen gwelliannau cyson mewn gofal heb ei drefnu ac amseroedd aros. Yn wyneb y gwelliannau mewn dull gweithredu ac ymateb, cytunwyd y dylid is-gyfeirio'r sefydliad i ‘monitro uwch’.

 

Cydnabu'r grŵp y ffordd gadarnhaol yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb i'r pandemig dros y misoedd diwethaf, gan gydnabod bod y duedd wedi effeithio ar y Gogledd yn fwy cyson o'i gymharu â gweddill Cymru.  Adolygodd dystiolaeth a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd a ddangosodd gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys y meysydd a oedd wedi'u dynodi yn wreiddiol fel rhai a oedd mewn mesurau arbennig.  Er hynny, roedd pryderon o hyd am berfformiad a datrysiadau strategol a allai ofyn am gymorth allanol penodol.  Yn benodol, roedd y grŵp am gael sicrwydd pellach gan y bwrdd iechyd mewn perthynas â chynnydd mewn gwasanaethau iechyd Meddwl. Teimlai'r grŵp ei bod yn bwysig i'r bwrdd iechyd hybu'r gwaith da yr oedd yn ei wneud a chanolbwyntio ar ei gamau gweithredu ei hun, yn hytrach na meddwl am y label statws.  Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw argymhelliad ar gyfer newid i'r statws uwchgyfeirio. Er mwyn caniatáu i'r cyfle am gynnydd pellach gael ei ystyried, cynigiodd y grŵp gael cyfarfod teirochrog yn benodol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn diwedd y flwyddyn.

O ran Cwm Taf Morgannwg, nododd y grŵp fod y bwrdd yn parhau i ymateb yn effeithiol ac mewn ffordd agored i'r cyrff adolygu allanol a'r Panel Mamolaeth Annibynnol, gan gynnwys dros y misoedd diwethaf. Nododd y grŵp fod angen ystyried unrhyw gynnydd yng nghyd-destun y flaenoriaeth a roddir i'r ymateb i'r pandemig. Er bod y Panel Trosolwg ar Famolaeth wedi'i gynnal yn rhithiol, roedd y Panel wedi cydnabod cynnydd o ran gwasanaethau mamolaeth ers yr adolygiad diwethaf. Nododd y grŵp yr ymgysylltu gwell rhwng partneriaethau a rhanddeiliad, yn enwedig â'r partneriaid yn yr Awdurdod Lleol a'r ffordd adeiladol yr oedd statws yr adran frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi'i gwblhau. Serch hynny, mae'n dal yn bwysig i'r bwrdd iechyd barhau i feithrin ymddiriedaeth a hyder y boblogaeth leol, yn ogystal ag â rhanddeiliaid. Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw argymhelliad ar gyfer newid y statws uwchgyfeirio.

Dengys y tabl isod statws uwchgyfeirio blaenorol a phresennol pob sefydliad.

Sefydliad

Statws Blaenorol (Rhag 19)

Statws Presennol (Medi 20)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mesurau Arbennig

Mesurau arbennig

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg*

Mesurau arbennig ar gyfer mamolaeth, ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu

Mesurau arbennig ar gyfer mamolaeth, ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Ymyrraeth wedi'i thargedu

Monitro uwch

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ymyrraeth wedi'i thargedu

Monitro uwch

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Trefniadau arferol

Trefniadau arferol

* Cafodd cyn-Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ei uwchgyfeirio i statws 'monitro uwch' mewn cyfarfod ar ddechrau mis Ionawr 2019.  Mewn cyfarfod ym mis Ebrill 2019, cytunwyd y dylid codi statws uwchgyfeirio Cwm Taf Morgannwg i statws 'mesurau arbennig' ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Coleg Brenhinol ac i statws 'ymyrraeth wedi'i thargedu' ar gyfer llywodraethu ac ansawdd.

Yn dilyn y broses o newid y ffin ym mis Mawrth 2019, daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.