Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Mawrth 2014, lansiwyd y Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd ar y cyd. O dan y trefniadau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cwrdd â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth y GIG. Maent yn ystyried ystod eang o wybodaeth i nodi unrhyw broblemau a helpu i'w datrys yn effeithiol.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad am ganlyniad y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2017.

Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith:

  • Trefniadau arferol
  • Monitro uwch
  • Ymyrraeth wedi'i thargedu
  • Mesurau arbennig.

O ganlyniad i'r trafodaethau, cytunodd Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y bydd yr holl sefydliadau'n parhau ar eu lefel uwchgyfeirio bresennol fel yr amlinellir yn y tabl yn atodiad 1. Mae fy nisgwyliadau i weld gwelliant gan bob un o'r sefydliadau hyn yn parhau a bydd eu cynnydd yn dal i gael ei fonitro drwy drefniadau atebolrwydd ffurfiol a thrafodaethau â swyddogion.

Yn dilyn fy nghyhoeddiad fis Medi y llynedd bod Byrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a'r Fro a Hywel Dda wedi'u codi i lefel ymyrraeth wedi'i thargedu, aeth fy swyddogion ati i gomisiynu Deloitte LLP, drwy broses gystadleuol, i gynnal adolygiadau llywodraethu ariannol o'r tri sefydliad hyn. Roedd yr adolygiadau'n cynnwys y prosesau llywodraethu a fabwysiadwyd gan y byrddau hyn ar gyfer datblygu, cyflenwi, rheoli perfformiad ac adrodd ar eu cynlluniau ariannol yn ystod 2016-17. Bu'r timau adolygu'n trafod yn eang ym mhob sefydliad, gan gynnwys ag aelodau'r bwrdd, cyfarwyddwyr gweithredol a rheolwyr gweithredol. Rwyf bellach wedi cael copïau o'r adroddiadau terfynol gan fy swyddogion, a byddant yn gofyn i bob sefydliad baratoi cynllun gweithredu i ymateb i argymhellion yr adolygiad. Bydd fy swyddogion yn monitro cynnydd yn erbyn cyflawni'r camau gweithredu hyn drwy'r broses ymyrraeth, a byddaf yn disgwyl i'r Byrddau adolygu'r canlyniadau a'r ymatebion arfaethedig drwy gyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd. Pan fyddant wedi’u cwblhau, bydd yr adroddiadau a'r ymatebion iddynt ar gael i'r cyhoedd.

Trefniadau dwysáu ac ymyrryd GIG Cymru