Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf yn falch o gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (SBRR) i 2017-18 ac o 2018 ymlaen byddwn yn sefydlu cynllun parhaol newydd.

Mae SBRR yn darparu rhyddhad o 100% i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 a rhyddhad sy'n lleihau’n raddol o 100% i sero i'r rhai sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000.

Yn 2016-17, gydag arian o £98 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae'r cynllun hwn yn helpu mwy na 70 y cant o safleoedd busnes yng Nghymru, ac ni fydd mwy na hanner y rhain yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.

Trwy wneud y cyhoeddiad hwn heddiw rydym yn rhoi i fusnesau bach y sicrwydd a'r diogelwch y bydd y ffynhonnell bwysig hon o gymorth yn parhau, gan ein bod yn cydnabod y gall ardrethi annomestig gyfrif am gyfran uwch o'u costau.

Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn adolygu'r ffordd y mae SBRR yn gweithredu er mwyn cyflwyno cynllun parhaol newydd o 2018-19 sy’n targedu cefnogaeth i fusnesau bach yn well.

Fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn edrych ar ffyrdd o wella'r system ardrethi annomestig drwy newidiadau gweinyddol i wella effeithlonrwydd a mesurau i helpu i fynd i'r afael â cham-drin fel bod pob trethdalwr yn cyfrannu’n deg at ariannu gwasanaethau lleol. Mae hwn yn un o'r materion a godwyd gyda ni yn benodol gan randdeiliaid mewn ymateb i'r ymgynghoriad ar Fil Drafft Llywodraeth Leol .

Yn ychwanegol at y cymorth a ddarperir gan SBRR, mae Busnes Cymru’n darparu gwasanaeth cymorth busnes dwyieithog i'w gwneud yn haws i fusnesau Cymru a darpar entrepreneuriaid gael mynediad i’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth y mae arnynt eu heisiau i ddechrau a thyfu eu busnesau.

Gellir cael gafael ar Busnes Cymru trwy dair prif sianel:

  • ar-lein drwy businesswales.gov.wales a’i bresenoldeb yn y cyfryngau cymdeithasol;
  • drwy linell ffôn benodol - 03000 6 03000; a
  • trwy rwydwaith o swyddfeydd ledled Cymru.