Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r trethi sydd wedi’u datganoli’n llawn a’r trethi sydd wedi’u datganoli’n rhannol i Gymru yn cefnogi'r blaenoriaethau gwariant fel y’u nodwyd yn y Gyllideb ddrafft a gyhoeddais heddiw. Mae ein polisïau treth hefyd yn cynnig cyfle i gyflawni blaenoriaethau polisi ehangach y Llywodraeth wrth geisio sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

Mae'r datganiad hwn yn nodi fy nghynlluniau treth fel y’u gwelir yn y Gyllideb ddrafft.

Cyfraddau Treth Incwm Cymru

Mae’r broses ar gyfer Cymru yn golygu bod Llywodraeth y DU yn lleihau pob un o'r tair cyfradd treth incwm ar gyfer trethdalwyr Cymreig o 10c. Bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu wedi hynny naill ai i bennu cyfraddau Cymru yn 10c, a sicrhau cydraddoldeb rhwng trethdalwyr Cymreig a threthdalwyr Seisnig felly, neu i bennu cyfraddau gwahanol.

Yn unol â'i hymrwymiad i beidio â chymryd mwy oddi wrth deuluoedd yng Nghymru drwy gyfrwng Cyfraddau Treth Incwm Cymru, tra bo effaith economaidd COVID-19 yn parhau o leiaf, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig pennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru ar gyfer 2023-24 yn 10c ar gyfer y tair cyfradd treth incwm (sylfaenol, uwch ac ychwanegol).

Ochr yn ochr â'r Gyllideb ddrafft hon, rwy’n cyhoeddi Canllaw Cyflym wedi'i ddiweddaru ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru. Mae hwn yn darparu amcangyfrifon o'r effaith y gallai newidiadau i bob un o dair cyfradd Cymru ei chael ar refeniw. 

Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

O 1 Ebrill 2023, rwy'n bwriadu cynyddu cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn unol â’r rhagolygon o ran chwyddiant Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) (fel y’i rhagwelwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn hydref 2021). Mae hyn yn gyson â chyfraddau treth dirlenwi’r DU ar gyfer 2023-24, i gefnogi'r amcan polisi o leihau gwastraff sy’n cael ei waredu ar safleoedd tirlenwi, ac i helpu i gyrraedd ein nod o ddod yn genedl ddiwastraff.

Drwy bennu cyfraddau ar gyfer 2023-24 sy'n gyson â threth dirlenwi'r DU, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar y refeniw treth, gan sicrhau hefyd fod llai o risg y caiff gwastraff ei symud ar draws ffiniau.

Mae'r Rheoliadau sy’n ofynnol ar gyfer rhoi effaith i'r newidiadau hyn yn cael eu gosod yn y Senedd ar 15 Rhagfyr 2022.

Mae'r newidiadau i'r cyfraddau o 1 Ebrill 2023 i’w gweld yn Atodiad 1.

Y Dreth Trafodiadau Tir

Cafodd newidiadau i gyfraddau'r Dreth Trafodiadau Tir oedd yn cael eu datblygu i'w cyflwyno ochr yn ochr â'r Gyllideb Ddrafft eu cyflwyno’n gynharach, i gael effaith o 10 Hydref 2022. Gwnaed hyn er mwyn osgoi unrhyw ansicrwydd yng ngoleuni newidiadau Llywodraeth y DU i gyfraddau Treth Dir y Dreth Stamp ar 27 Medi. Ni chynigir unrhyw newidiadau pellach yn y Gyllideb Ddrafft hon.

Mae'r newidiadau a gafodd effaith o 10 Hydref yn effeithio ar y prif gyfraddau preswyl. Ar gyfer y prif gyfraddau preswyl, cafodd y trothwy cychwynnol ei godi o £180,000 i £225,000. Mae'r gyfradd dreth gyntaf bellach wedi ei phennu ar 6% ac mae’n berthnasol i’r gyfran o’r pris rhwng £225,000 a £400,000. Ni wnaed unrhyw newidiadau i gyfraddau eraill, gan gynnwys y cyfraddau preswyl uwch.

Yr Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru

Ochr yn ochr â chyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft, rwyf wedi cyhoeddi'r Adroddiad ar Bolisi Trethi – yr ail adroddiad blynyddol o’r fath – yn erbyn y Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-26. Mae'r Adroddiad yn nodi’r cynnydd ar yr ystod o weithgareddau yr ydym yn cymryd rhan ynddynt, ein hymrwymiadau sy’n gysylltiedig â threth yn y Rhaglen Lywodraethu gan gynnwys ym maes diwygio cyllid llywodraeth leol, a’r ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth i roi hawl i awdurdodau lleol godi ardoll ymwelwyr.