Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Rwy’n falch o allu cadarnhau bod adroddiad prosiect Comisiwn y Gyfraith i adolygu’r gyfraith sy’n llywodraethu sut mae’r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn gweithredu, gan wneud awgrymiadau perthnasol, wedi cael ei gyhoeddi. Gosodwyd yr adroddiad gerbron y Senedd, ac mae ar gael yn: Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru.
Man cychwyn gwaith Comisiwn y Gyfraith oedd datblygiad tameidiog y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Mae pob tribiwnlys yn parhau i gael ei lywodraethu gan y ddeddfwriaeth a’i sefydlodd, sef deddfwriaeth y DU gyfan, deddfwriaeth Cymru a Lloegr neu ddeddfwriaeth Cymru yn unig. Ar ben hynny, mae’r ddeddfwriaeth yn gallu mynd yn ôl dros gyfnod o flynyddoedd, ac mae’n cynnwys deddfwriaeth a wnaed cyn datganoli pan oedd tribiwnlysoedd yn cael eu gweld fel rhan o swyddogaethau gweithredol yn hytrach na swyddogaethau barnwrol y wladwriaeth. Erbyn heddiw, rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd yr egwyddor o annibyniaeth farnwrol o ran sut mae tribiwnlysoedd yn gweithredu, ac rydym hefyd yn cydnabod uniondeb barnwriaeth Tribiwnlysoedd Cymru wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau cyhoeddus yma yng Nghymru.
Oherwydd y fframwaith statudol tameidiog sy’n sail i’r tribiwnlysoedd yng Nghymru, mae’r rheolau a’r gweithdrefnau presennol ar gyfer y tribiwnlysoedd datganoledig yn gymhleth ac yn anghyson, ac mae’r sefyllfa hon yn parhau er gwaethaf y newidiadau a wnaed gan Ddeddf Cymru 2017, a greodd rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Fodd bynnag, nid oes amheuaeth nad yw creu swydd y Llywydd a diffinio Tribiwnlysoedd Cymru mewn statud wedi nodi cam ymlaen tuag at sefydlu system dribiwnlysoedd fodern i Gymru. Mae’r daith honno bellach yn parhau gyda’r newidiadau strwythurol a nodwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, sy’n darparu llwybr tuag at ddatblygu seilwaith cyfiawnder datganoledig Cymru.
Mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn bellgyrhaeddol, ac maent yn cynnwys:
- creu un system unedig a chydlynol ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig, sef Tribiwnlys Haen Gyntaf i Gymru, ochr yn ochr â chorff apeliadol uwch i Gymru er mwyn darparu llwybr apelio unffurf;
- ymgorffori tribiwnlysoedd Cymru gyda thribiwnlysoedd datganoledig eraill yng Nghymru yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf, wedi eu trefnu mewn siambrau priodol;
- ymestyn rôl oruchwylio Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i gynnwys yr holl dribiwnlysoedd o fewn yr un system sengl, a rhoi rôl farnwrol i’r Llywydd eistedd fel barnwr yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac yn y corff apeliadol;
- safoni penodiadau, cwynion, a phrosesau disgyblu;
- creu annibyniaeth strwythurol ar gyfer gweinyddu’r tribiwnlysoedd yng Nghymru, er mwyn cynnal yr egwyddor o annibyniaeth farnwrol, a sicrhau bod hynny’n weladwy.
Mae Llywodraeth Cymru yn gryf ei chymeradwyaeth o egwyddor sylfaenol yr argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith, sef y dylid gweithredu un system sy’n annibynnol yn strwythurol ar gyfer tribiwnlysoedd yng Nghymru. Mae’r newidiadau a nodir gan y Comisiwn yn darparu ar gyfer creu strwythur syml, modern, a theg i’n tribiwnlysoedd. Mae cynigion y Comisiwn yn rhoi sylw i’r diffygion yn y strwythurau ad hoc sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd, ac maent hefyd yn paratoi’r system tribiwnlysoedd ar gyfer y dyfodol, drwy sicrhau y bydd modd i swyddogaethau newydd gael eu rhoi drwy ddeddfwriaeth heb orfod creu cyrff a threfniadau gweinyddu cwbl newydd. Yn fyr, mae cynigion Comisiwn y Gyfraith yn mynd yn bell o ran creu’r gallu i ddeddfwriaeth Cymru gael ei gorfodi drwy sefydliadau Cymreig. Drwy wneud hynny, maent yn gydnaws â chasgliadau’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru o ran pwysigrwydd adeiladu capasiti yn ein system gyfiawnder.
Hoffwn ddiolch i dîm Comisiwn y Gyfraith, o dan arweinyddiaeth y Comisiynydd Nicholas Paines CF, am y gwaith y mae wedi ei gyflawni. Byddwn nawr yn ystyried manylion cynigion Comisiwn y Gyfraith, gan ymgysylltu’n llawn â’r rhanddeiliaid hynny y maent yn effeithio arnynt, wrth inni fynd ati i ddatblygu a gweithredu polisi unigryw i Gymru ar gyfer gwasanaeth tribiwnlys modern a newydd a fydd yn gonglfaen i’n system gyfiawnder yn y dyfodol.