Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 13 Medi cynhaliwyd cyfarfod o Grŵp Retinol Cymru.  Cafodd y Grŵp hwn ei sefydlu i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch darparu gwasanaethau i gleifion er mwyn trin Dirywiad Macwlaidd Gwlyb sy’n Gysylltiedig â Henaint (“AMD Gwlyb”).

Rwyf yn nodi isod, yn fanylach, hanes a chefndir AMD Gwlyb ac yn hysbysu’r Aelodau o’m penderfyniad i ymestyn y dulliau a ddefnyddir i drin AMD Gwlyb. Gwnaf hynny trwy gynnwys y defnydd o’r cyffur Aflibercept yn ogystal â’r cyffur Lucentis.  Caiff y gwasanaeth hwn ei gyflwyno o hydref 2013 ymlaen.

Cefndir

Ers Tachwedd 2008 mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Byrddau Iechyd Lleol i ddarparu’r cyffur Lucentis i drin AMD Gwlyb yn unol â’r canllawiau a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (“NICE”).

Argymhellodd canllawiau NICE, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2013, ddefnyddio Aflibercept i drin AMD Gwlyb ac fel y cyfryw cytunais y dylai fy swyddogion ymgysylltu â’r offthalmolegwyr yng Nghymru sy’n trin AMD Gwlyb ar hyn o bryd ac sy’n defnyddio’r cyffur Lucentis. Gofynnais iddynt ystyried goblygiadau argymhellion NICE a’r costau cysylltiedig ar sail Cymru gyfan.  

Diben yr ymgysylltu hwn oedd:

  • trafod datblygu rhaglen gyflenwi;
  • trafod y ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio’r gweithlu a pha broffesiynolion iechyd a ddylai fod yn rhan o’r gwasanaeth;
  • mynd i’r afael ag unrhyw faterion heb eu datrys mewn perthynas ag atgyfeirio cleifion ym maes gofal sylfaenol at y gwasanaeth ac ailddatgan y protocolau atgyfeirio y cytunwyd arnynt ag optometreg; a
  • adolygu triniaethau newydd er mwyn eu cyflwyno i’r gwasanaeth fel y bo’n briodol.

Mae trafodaethau wedi arwain at gytundeb o ran egwyddor oddi wrth y gwasanaeth i gyflwyno’r canlynol:

  • Trin AMD Gwlyb ar gyfer y llygad cyntaf a’r ail lygad gan ddefnyddio’r cyffur Aflibercept a Lucentis;
  • Adolygiad o’r holl gyffuriau a ddefnyddir i drin AMD Gwlyb sy’n destun treialon clinigol ar hyn o bryd er mwyn iddynt gael eu darparu ar gyfer triniaeth cyn gynted â’u bod yn cael eu trwyddedu;
  • Cyflwyno’r driniaeth yn raddol gan ddefnyddio’r cyffur Aflibercept, gan sicrhau bod cyfradd  o 20% o leiaf o gleifion sy’n cael triniaeth gwrth-VEGF am AMD Gwlyb yn cael Aflibercept o fewn 12 mis;
  • Gwerthuso’r protocolau  triniaeth gan Grŵp Retinol Cymru a’u dilysu trwy’r Grŵp Cynghori Arbenigol Offthalmolegol (“OSAG”) ar ôl chwe mis a’u hailwerthuso ar ôl deuddeg mis i sicrhau bod y gwasanaeth yn cyflwyno’r canlyniadau gorau i gleifion; a
  • Atgyfeirio materion gwasanaeth fel y bo’n briodol o OSAG i’r Prif Gynghorydd Optometrig, i sicrhau bod cleifion yn cael eu hasesu a’u trin er mwyn cael y budd mwyaf o safbwynt eu golwg. Yn ogystal byddwn yn gofyn i’r Byrddau Iechyd adolygu’r systemau cofnodion electronig presennol i sicrhau data cywir a rhagolygon ariannu.

Ariannu yn y Dyfodol

Dylid nodi bod y datganiad hwn yn nodi’r ymrwymiad presennol i ariannu triniaeth trwy gyfrwng Aflibercept a Lucentis ar gyfer AMD Gwlyb.
Er y cydnabyddir ar hyn o bryd mai Aflibercept a Lucentis yw’r cyffuriau mwyaf effeithiol sydd ar gael o ran atal pobl rhag colli eu golwg ymhellach, nid yw’n  llwyddiannus ym mhob achos. Ochr yn ochr â’r camau yr wyf yn eu cymryd ar hyn o bryd, ceisiaf gyngor ar arferion gorau wrth i ganlyniadau treialon clinigol pellach gael eu cyhoeddi.  Mae Avastin yn destun treialon meddygol ar hyn o bryd ac mae’r canlyniadau cynnar yn galonogol.  Os caiff y cyffur hwn ei gymeradwyo, yna byddai cost cyffuriau i drin AMD Gwlyb yn gostwng yn sylweddol.  


Archwilio’r Gwasanaeth

Rwyf wedi gofyn i’m Swyddogion barhau i archwilio perfformiad Byrddau Iechyd Lleol yn y maes hwn yn ofalus iawn dros y misoedd i ddod wrth i’r gwasanaeth newydd ddatblygu.  Mae’n bwysig rheoli’r ffordd y mae’r driniaeth hon yn cael ei darparu yn ofalus, er mwyn atal cleifion rhag codi pryderon yn ddiangen.

Er mwyn sicrhau bod cysondeb yn y ffordd y mae fy nghyfarwyddeb yn cael ei rhoi ar waith gan y GIG yng Nghymru, rwyf wedi gofyn i’m Prif Gynghorydd Optometrig amserlennu cyfarfodydd â Chadeirydd Grŵp Retinol Cymru trwy OSAG i  archwilio’r ffordd y mae Byrddau Iechyd Lleol yn rhoi fy mholisi ar waith yn rheolaidd. Seilir yr archwiliad ar feini prawf sydd wedi’u defnyddio gynt ac fe fydd yn cynnwys asesiad o lwyddiant y driniaeth a’i haddasrwydd.

Rwyf hefyd wedi gofyn i Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru gyfan adolygu pob cyffur a ddefnyddir i drin AMD Gwlyb sy’n destun treialon clinigol ar hyn o bryd.