Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Bydd Aelodau'r Senedd yn awyddus i wybod bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu Hadroddiad i Senedd y DU ar Gyfraith Cymhathedig: Mehefin 2024 i Ragfyr 2024 ('Adroddiad Llywodraeth y DU') a gwnaeth ddatganiad ysgrifenedig ar 23 Ionawr 2025. Cyflwynwyd adroddiad Llywodraeth y DU gerbron Senedd y DU yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 ("Deddf REUL").
I ategu'r adroddiad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Trydydd Diweddariad Chwemisol Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir ar Ddeddf REUL (Mehefin 2024 – Rhagfyr 2024) ar ymwneud Gweinidogion Cymru â Deddf REUL yn ystod yr un cyfnod adrodd.
Yn ystod y cyfnod adrodd, nid yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud unrhyw reoliadau o dan y pwerau a roddwyd iddynt gan Ddeddf REUL.
Yn ystod y cyfnod adrodd, rhoddodd Gweinidogion Cymru eu cydsyniad i Lywodraeth y DU ddefnyddio'r pwerau cydredol yn Neddf REUL ar gyfer un Offeryn Statudol, sef Rheoliadau Swyddogaethau Swyddogol (Diwygio) 2024.
Mae Adroddiad Llywodraeth y DU yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi gosod dau Offeryn Statudol rhwng Mehefin 2024 a Rhagfyr 2024 gan ddefnyddio pwerau Deddf REUL. Mae’r ddau faes yn feysydd a gedwir yn ôl yn llwyr ac ni wnaeth Llywodraeth y DU geisio cydsyniad gan Weinidogion Cymru.