Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cyhoeddwyd cyfres o egwyddorion ynglŷn â thryloywder cydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus.

Roedd 23 o argymhellion mewn adroddiad ar Dâl Uwch Reolwyr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Tachwedd 2014 , a’r rheini’n canolbwyntio ar onestrwydd a thryloywder y datganiadau o gydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr. Fel yr amlinellwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion, rydym wedi creu cyfres gyffredin o egwyddorion  ac argymhellion lefel uwch sy'n amlinellu ein disgwyliadau ynglŷn ag adrodd ar gydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r egwyddorion hyn a'r trefniadau ar gyfer adrodd a argymhellir yn cael eu nodi yn “Tryloywder Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch Reolwyr yn y Sector Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru”. Rwyf wedi ysgrifennu at gydweithwyr yn y Cabinet i dynnu eu sylw at y safonau newydd hyn ac i ofyn iddynt eu rhaeadru i gyrff datganoledig y sector cyhoeddus yn eu portffolios.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r egwyddor o bartneriaeth gymdeithasol a chydfargeinio cenedlaethol a lleol, ac ni fydd yr egwyddorion a'r argymhellion rydym wedi eu datblygu mewn ymateb i'r argymhellion yn ceisio tanseilio hyn. Rydym yn credu y dylai materion ynghylch cydnabyddiaeth ariannol yn y sector cyhoeddus fod yn dryloyw ac yn seiliedig ar egwyddorion sy'n berthnasol ar draws yr ystod o wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Ni fwriedir bod yr egwyddorion hyn yn ymyrryd â threfniadau bargeinio cyflogau presennol, ac nid ydynt yn ddatganiad o fwriad y Llywodraeth i osod y gyfradd gyflog ar gyfer cyrff datganoledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r egwyddorion hyn a'r trefniadau adrodd a argymhellir yn gam tuag at graffu'n well ar gydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, a byddant yn cael eu hadolygu'n gyson wrth i newidiadau ddigwydd o ran deddfwriaeth, polisïau a'r setliad datganoli.