Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn cyhoeddi'r datganiad ysgrifenedig ar 29 Ionawr yn cadarnhau'r cynlluniau ar gyfer Bil Tybaco a Fêps newydd i greu cenhedlaeth ddi-fwg ac atal pobl ifanc rhag fepio, rwy'n cyhoeddi heddiw yr adroddiad blynyddol cyntaf ar gyfer Strategaeth Cymru Ddi-fwg Llywodraeth Cymru. 

Mae'r strategaeth yn nodi ein huchelgais i Gymru fod yn ddi-fwg erbyn 2030. Mae hyn yn golygu cyflawni cyfradd cyffredinrwydd smygu tybaco o 5% neu lai mewn oedolion dros 16 oed. Bydd gwireddu Cymru ddi-fwg yn gwella bywydau drwy atal salwch a marwolaethau sy'n gysylltiedig â smygu a chefnogi Cymru iachach, sy’n fwy cyfartal i bawb. 

Fel rhan o'r strategaeth, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfres o gynlluniau cyflawni dwy flynedd, sy’n nodi ein camau gweithredu wrth inni weithio tuag at Gymru ddi-fwg. Rydym hefyd wedi ymrwymo yn y strategaeth i fonitro a gwerthuso camau gweithredu’r cynllun cyflawni yn barhaus a chyhoeddi adroddiadau cynnydd blynyddol i sicrhau ein bod yn parhau ar y trywydd iawn.

Cyhoeddwyd Tuag at Gymru Ddi-fwg: Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco 2022-24 – y cynllun cyflawni cyfredol – ym mis Gorffennaf 2022. Mae'r adroddiad blynyddol cyntaf, sy'n cwmpasu'r cyfnod o fis Gorffennaf 2022 i fis Gorffennaf 2023, yn nodi manylion yr hyn sydd wedi’i wneud hyd yma i fwrw ati â’r camau gweithredu o fewn pum maes gweithredu â blaenoriaeth y cynllun cyflawni. Rydym wedi gwneud cynnydd cadarn ar draws pob maes o'r cynllun cyflawni. Fodd bynnag, dylid nodi hefyd ein bod wedi ‘dadnormaleiddio’ smygu ymhellach a lleihau cysylltiad pobl â mwg ail-law yng Nghymru drwy gael gwared yn raddol ar ystafelloedd smygu mewn unedau iechyd meddwl a thrwy wahardd ystafelloedd gwely lle caniateir i bobl smygu mewn gwestai a llety gwyliau hunangynhwysol, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2022. 

Rydym hefyd yn parhau i gefnogi mwy o bobl i roi'r gorau i smygu drwy ein gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu i Gymru gyfan, Helpa Fi i Stopio. Ar hyn o bryd, rydym yn ehangu ein gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu drwy weithredu gwasanaeth smygu sy’n cael ei ddarparu mewn ysbytai i gefnogi smygwyr pan fyddant yn gleifion mewnol yn yr ysbyty.  Rydym hefyd yn gweithio gyda byrddau iechyd i leihau cyfraddau smygu ymhlith mamau a chefnogi mwy o blant a phobl ifanc i gael plentyndod di-fwg drwy raglen rhoi'r gorau i smygu sydd wedi’i thargedu at smygwyr beichiog. Mae mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon hefyd wedi cael lle blaenllaw yn ein gwaith ac rydym wedi cynnal ymgyrchoedd gwybodaeth mewn cymunedau i godi ymwybyddiaeth a sefydlu system adrodd drwy'r wefan  DimEsgus.Byth., sy'n bwydo gwybodaeth i'r awdurdodau lleol er mwyn iddynt ymchwilio. 

Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu ein cynllun cyflawni dwy flynedd nesaf, a fydd yn cwmpasu'r cyfnod 2024-2026. Bydd hwn yn adeiladu ar ein gwaith hyd yma i greu cenhedlaeth ddi-fwg, i gefnogi mwy o smygwyr i roi'r gorau iddi, ac atal ein plant a'n pobl ifanc rhag dechrau smygu neu fepio. Byddaf yn diweddaru'r Senedd eto pan fydd y cynllun hwnnw yn barod i'w gyhoeddi.