Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy'n gwneud y datganiad hwn mewn ymateb i geisiadau gan Aelodau yn ystod y datganiad llafar ar dwf gwyrdd ar 17 Mehefin. Heddiw rwy'n lansio Twf Gwyrdd Cymru: Buddsoddi yn y Dyfodol. Mae'r prosbectws hwn yn amlinellu sut all defnyddio ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy helpu i greu model economaidd newydd a fydd yn creu cyfoeth a thwf economaidd heddiw ac yn y dyfodol.

Bydd Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn mynd ati ar y cyd i hyrwyddo cynnig ac uchelgeisiau twf gwyrdd Cymru i gynulleidfa o bobl busnes a buddsoddwyr yn y digwyddiad a gynhelir heddiw gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn y Mansion House yn Llundain.

Mae ‘Twf Gwyrdd Cymru: Buddsoddi yn y Dyfodol’ yn amlinellu ein prif gynigion:

  • Mae Cymru'n wlad sydd â chyfoeth o asedau naturiol a llu o adnoddau ynni, dŵr a morol.
  • Rydym yn llywodraeth hyblyg ac ymroddedig sy'n cydweithio'n agos â busnesau i gynnig cymorth ymarferol wedi'i deilwra.
  • Rydym yn gwneud Cymru'n wlad unigryw i fuddsoddi ynddi ac i ddatblygu cyfleoedd busnes newydd.
  • Drwy Fesur yr Amgylchedd rydym yn sefydlu fframwaith statudol modern a chydgysylltiedig sy’n helpu i symleiddio dulliau rheoleiddio.


Mae angen cefnogaeth weithredol y llywodraeth i gyflawni twf gwyrdd. Fel llywodraeth rydym wedi ymrwymo i hybu'r newid hwn. Rydym yn datblygu opsiynau i gefnogi ac annog buddsoddi mewn seilwaith effeithlon o ran ynni ac adnoddau yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau'n well a datblygu cyfleoedd ynni adnewyddadwy a charbon isel.

Rydym am sôn wrth fuddsoddwyr am y cyfleoedd posibl a gyflwynir gan y cynlluniau sydd ar y gweill yng Nghymru, a byddwn yn cyflwyno cynigion pendant yn nes ymlaen eleni.