Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni ddechrau ar dymor twristiaeth 2023, mae’r datganiad hwn yn nodi’r cymorth yr ydym yn ei ddarparu i gymunedau lleol i gydbwyso’r buddiannau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sy’n deillio o dwristiaeth.

Mae twristiaeth yn helpu i gysylltu Cymru â phobl o bob rhan o’r byd. Mae’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at bob agwedd ar fywyd Cymru – gan gynorthwyo i greu ffyniant, hyder, cyflogaeth, adfywiad diwylliannol, gwerthfawrogiad amgylcheddol, buddiannau iechyd, a hwyl.

Mae dyfodol ein diwydiant yn mynd law yn llaw â dyfodol ein cymunedau; gall yr hyn sy’n dda i ymwelwyr fod yn dda i bobl leol. Ein nod yw sicrhau bod twristiaeth yn cyfrannu at hyfywedd economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru, ac yn cynorthwyo i greu Cymru iachach a hapusach.

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein strategaeth Croeso i Gymru, sy’n canolbwyntio ar dymoroldeb, gwariant a dosbarthiad. Mae hyn yn annog tyfu twristiaeth y tu allan i’r tymor brig, yn annog ymwelwyr i aros yn hwy ac i wario mwy, ac yn hyrwyddo’r ardaloedd twristiaeth tawelach. Mae gweithio mewn partneriaeth – gydag awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, busnesau a chymunedau – yn allweddol o ran cyflawni hyn.

Cyflwynwyd Addo yn gyntaf yn ystod haf 2020 fel ymgyrch i annog twristiaeth gyfrifol; erbyn hyn mae wedi esblygu i fod yn fenter hirdymor sy’n annog pobl yng Nghymru ac ymwelwyr i wneud addewid i ofalu am Gymru. Gyda dwy ffrwd trosfwaol, mae Addo yn seiliedig ar Fro a Byd – er mwyn annog ymddygiad cadarnhaol a’n hannog i ofalu am ein cymunedau, croesawu profiadau newydd, cefnogi busnesau lleol, a bod yn ymwelydd meddylgar, gan drefnu ymlaen llaw a pheidio â gadael dim ar ôl o’n hymweliad. Rydym hefyd yn annog pobl i fod yn ymwelwyr ystyriol – gan barchu’r tir, dilyn y Cod Cefn Gwlad – mae negeseuon amgylcheddol ehangach wedi eu plethu â dewis ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio. 

Y llynedd, fe wnaethom dreialu’r ymgyrch Twristiaeth Gynaliadwy Cymru, gyda’r prif amcan o helpu busnesau twristiaeth i wireddu eu gweledigaeth werdd. Roedd yn canolbwyntio ar bum maes allweddol – dŵr, gwastraff, cadwyn gyflenwi, ynni a theithio er mwyn cynorthwyo busnesau i wella eu cynaliadwyedd a helpu Cymru i gyrraedd Sero Net. Rydym yn parhau â’r gwaith hwn eleni.

Rydym yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy drwy ein buddsoddiadau cyfalaf. Mae cronfa Y Pethau Pwysig 2023-25 yn blaenoriaethu buddsoddiad strategol mewn cyrchfannau twristiaid allweddol. Bydd y gronfa £5 miliwn ar gyfer 2023-25 o gymorth i gyflawni gwelliannau seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth sydd o bwysigrwydd strategol ledled Cymru, ac yn helpu i liniaru pwysau neu leihau pwysau mewn ardaloedd sy’n boblogaidd ymysg twristiaid.

Rydym yn bwriadu datblygu seilwaith newydd neu drawsnewid seilwaith presennol er mwyn gwneud cyrchfannau yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol, gan gynorthwyo i leihau’r ôl troed carbon a chefnogi prosiectau sy’n dileu rhwystrau mewn cyrchfannau ac yn gwella mynediad i gyfleusterau i bawb.

Rydym yn ceisio’n gorau i gadw Cymru a’i thirweddau yn hardd ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar nifer o gyfreithiau a chynlluniau newydd er mwyn lleihau gwastraff ac atal sbwriel. Bydd Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn golygu y bydd y cwmnïau sydd yn gwneud pecynwaith yn gorfod talu am ddelio ag ef unwaith y mae’n cael ei daflu ymaith, gan gynnwys os yw’n cael ei daflu yn sbwriel. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn lleihau faint o becynwaith sy’n cael ei ddefnyddio a sicrhau ei fod yn gwneud llai o ddifrod i’r amgylchedd.

Dros y tair blynedd ddiwethaf rydym wedi ariannu Cadwch Gymru’n Daclus (dolen allanol) ac awdurdodau lleol yn rhan o’r rhaglen Caru Cymru i edrych ar ffyrdd o atal pobl rhag taflu sbwriel. 

Mae’r Senedd wedi pasio Bil pwysig sef Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Bydd yn gwahardd nifer o gynhyrchion plastig untro sy’n aml yn cael eu taflu yn sbwriel yng Nghymru ac yn creu trosedd newydd o gyflenwi neu gynnig cyflenwi cynhyrchion plastig untro penodol. Gobeithiwn y bydd hyn yn lleihau llygredd plastig yn llygad y ffynnon.  Byddwn hefyd yn cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd.

Rydym yn parhau i weithio tuag at roi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr– sef tâl bychan i ymwelwyr dros nos, a fyddai’n cael ei ailfuddsoddi mewn cymunedau lleol er mwyn gwella’r cynnig i ymwelwyr. Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin mewn cyrchfannau ledled y byd, ac yn nes at adref, mae Manceinion newydd gyflwyno ardoll o £1 y noson.

Mae Croeso Cymru yn parhau i weithio a thrafod gyda phrif randdeiliaid er mwyn atgyfnerthu ei brif negeseuon. Drwy ein gwaith marchnata – ac yn benodol drwy’r ymgyrch Addo – rydym yn gobeithio dylanwadu ar bobl i fwynhau ac i barchu’r llefydd y maent yn ymweld â nhw, ac i ystyried cynaliadwyedd yn ystod pob rhan o’u harhosiad.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach ar y mater neu ateb cwestiynau pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.