Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddais ar 3 Chwefror fy mod yn bwriadu tynnu yn ôl ac ailosod fersiwn newydd o Reoliadau drafft Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021. Penderfynwyd gwneud hyn er mwyn mynd i’r afael â chamgymeriad pwysig ond bach yn y fersiwn wreiddiol a osodwyd ar 27 Ionawr.

Mae’n bleser gen i gyhoeddi heddiw bod y rheoliadau hyn wedi’u hailosod a byddant yn destun dadl ar 23 Mawrth 2021. Ni ragwelir y bydd yr oedi yma yn effeithio ar y dyddiad y bydd y rheoliadau hyn yn dod i rym, sef 10 Medi 2021.