Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhagor o dystiolaeth ysgrifenedig i'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (y Comisiwn) mewn cysylltiad â Rhan 2 o'i chylch gwaith sy'n ymdrin â phwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.  Mae'r dystiolaeth yn ymateb i gais y Comisiwn am wybodaeth bellach ynghylch sut y mae'r setliad datganoli yn gweithio'n ymarferol, gan ganolbwyntio'n benodol ar gysylltiadau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru ac adrannau Llywodraeth y DU.  Mae'n cadarnhau bod y berthynas waith rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn broffesiynol, yn bwrpasol, yn adeiladol, yn niferus, yn gymhleth ac yn achosi rhwystredigaeth o bryd i'w gilydd.  Mae holl dystiolaeth y Llywodraeth wedi'i hatodi.

Mae tystiolaeth y Llywodraeth yn cefnogi'r pwyntiau canlynol, gan ddefnyddio astudiaethau achos perthnasol sy'n canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r setliad datganoli a phan fo cysylltiadau rhynglywodraethol yn digwydd ar ffiniau'r setliad:

  • mae’r cyswllt dwyffordd rhwng Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU yn seiliedig ar anghenion busnes ac mae’n helaeth iawn wrth ymdrin â rhai materion. Ond mae’n bosibl y bydd y cyswllt yn llai o lawer mewn meysydd eraill, pan fo materion wedi'u datganoli i raddau helaeth;
  • ceir cyswllt helaeth â Llywodraeth y DU mewn sawl maes, yng nghyd-destun pwerau sy'n gorgyffwrdd neu bolisïau a blaenoriaethau sy'n amrywio;
  • ceir llawer o enghreifftiau da o gydweithio effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru ac adrannau Llywodraeth y DU;
  • gall cyfathrebiadau Llywodraeth y DU fod yn fater pwysig ac ar adegau bydd Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiadau sy'n ymwneud yn bennaf â Lloegr, ond sydd â goblygiadau sylweddol i Gymru, heb unrhyw ymgynghori ymlaen llaw;
  • mae llawer o’r cyfathrebu rhwng y ddwy lywodraeth yn ymwneud â deddfwriaeth, ac mae angen i swyddogion gysylltu â’i gilydd yn gynnar ac yn gyson i ddatrys materion sy’n ymwneud â llawer o Filiau'r DU sy'n cynnwys darpariaethau y mae angen i’r Cynulliad gytuno iddynt drwy Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a llawer o Filiau Llywodraeth Cymru y mae angen cydsyniad Llywodraeth y DU iddynt neu unrhyw gyswllt arall â Llywodraeth y DU, ac i fodloni amserlenni'r Cynulliad a Senedd y DU;
  • gall y cymhlethdodau ynghylch ffiniau'r setliad datganoli arafu datblygiad deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gan fod oedi'n digwydd weithiau oherwydd heriau wrth geisio sefydlu beth yw safbwynt Llywodraeth y DU ar draws adrannau Whitehall;
  • nid yw Llywodraeth y DU bob amser yn ystyried goblygiadau rhai diwygiadau arwyddocaol iawn ar y gweinyddiaethau datganoledig ar lefel digon strategol wrth gynllunio, ac mae rhai newidiadau yn arwain at gostau uchel iawn i Lywodraeth Cymru, na ddarparwyd cyllid ar eu cyfer, er anfantais i'r gwasanaethau datganoledig.

Caiff copi o'r dystiolaeth hon ei rhoi yn Llyfrgell y Cynulliad.