Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 17 Mai 2021 cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai teithio rhyngwladol yn ailddechrau a chadarnhaodd y byddai Cymru’n defnyddio’r un system oleuadau traffig ar gyfer teithio rhyngwladol â rhannau eraill y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi’n glir mai dim ond ar gyfer teithiau hanfodol y dylai pobl deithio yn rhyngwladol. Er mwyn hwyluso teithio rhyngwladol ar gyfer y teithiau hanfodol hynny rydym wedi cymryd y camau canlynol.

Rydym yn gweithio’n agos gyda llywodraeth y DU i sicrhau y gall dinasyddion Cymru gael mynediad i ap y GIG er mwyn cael tystysgrifau statws COVID. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw’r system yn gallu darparu gwasanaeth i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Wrth inni gwblhau’r amserlen ar gyfer cael ein cynnwys ar yr ap, rydym wedi rhoi system dros dro ar waith a fydd yn galluogi i bobl yng Nghymru gael llythyr yn arddangos eu cofnod brechu. Felly, o 24 Mai, dylai pobl yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn ac sydd angen teithio i wlad sy’n gofyn am dystiolaeth o’r brechlyn COVID yn y pedair wythnos nesaf ffonio 0300 303 5667. Dylai teithwyr nodi y bydd tystysgrifau’n cymryd 7-10 diwrnod gwaith i’w prosesu. Hoffwn ddiolch yn ffurfiol i Gyngor Abertawe a’u tîm olrhain cysylltiadau Profi, Olrhain, Diogelu am eu proffesiynoldeb a’u hyblygrwydd wrth gynllunio a darparu’r gwasanaeth ar fyr rybudd.

Gallwch weld canllawiau ar ddarparu statws brechu rhag COVID yn https://llyw.cymru/cael-tystysgrif-brechiad-ar-gyfer-teithio-rhyngwladol

Hoffwn bwysleisio y dylid defnyddio’r gwasanaeth hwn dim ond os oes angen ichi deithio ar frys i wlad sy’n gofyn am dystiolaeth o’r brechlyn COVID ac na allwch ddarparu profion i fodloni gofynion mynediad y wlad. Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn rhai brys. 

Ar hyn o bryd, nid yw’r rhan fwyaf o wledydd yn gofyn am dystysgrifau brechu ac mae profion PCR negatif yn parhau i gael eu derbyn fel y prif faen prawf ar gyfer mynediad. Rwy’n annog unrhyw un sy’n bwriadu teithio i wirio gofynion y gwledydd y maent yn teithio iddynt cyn gofyn am dystysgrif brechu.

Rwyf am ei gwneud yn glir bod Llywodraeth Cymru o’r farn na ddylai pobl deithio dramor ar hyn o bryd, oni bai bod angen iddynt wneud hynny. Bydd rhaid i bawb sy’n dychwelyd o wlad ar y rhestr werdd archebu a thalu am brawf ar ôl dychwelyd, a bydd gofynion cwarantin a phrofi yn parhau i fod yn berthnasol os ydych yn teithio i wledydd ar y rhestrau oren a choch.

Rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i atal coronafeirws rhag dod i Gymru o ganlyniad i deithio rhyngwladol a’n cyngor yw y dylech ddewis Cymru fel cyrchfan yr haf hwn, yn hytrach na theithio dramor.